Mallwyd

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Mallwyd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Dyfi ar briffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ar bwys y pentref mae cyffordd yr A458 o gyfeiriad Y Trallwng. Y pentrefi agosaf yw Dinas Mawddwy, tua dwy filltir i'r gogledd, ac Aberangell i'r de. Mae Afon Dugoed yn aberu yn Afon Dyfi ger y pentref.

Mallwyd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.68°N 3.68°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH862125 Edit this on Wikidata
Cod postSY20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Porth Eglwys Mallwyd.

Saif y pentref bron ar yr hen ffin rhwng Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn. Hen enw'r pentref oedd 'Tre'r llan', safle eglwys blwyf Mallwyd yn hen gwmwd Mawddwy. Hon oedd ardal Gwylliaid Cochion Mawddwy, a gofféir o hyd yn enw y dafarn The Brigands yn y pentref.

Yr eglwys

golygu

Yn ôl traddodiad sefydlwyd eglwys Mallwyd gan Sant Tydecho yn y 6g ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14g ac o adeiladwaith anghyffredin, yn hir ac isel ei ffurf gyda llofftydd yn y ddau ben. Mae llawer o'r dodrefn pren yn perthyn i'r 17g. Yr ysgolor John Davies oedd rheithor Mallwyd am 30 mlynedd ar ddechrau'r 17g; ceir cofeb iddo yn yr eglwys a godwyd ar ddau ganmlwyddiant ei farwolaeth.

Pobl o Fallwyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu