Rudolf Agricola
Ysgolhaig Ffrisiaidd oedd Rudolf Agricola (Lladin: Rudolphus Agricola Phrisius; 1443 neu 1444 – 27 Hydref 1485) sydd yn nodedig fel un o brif ddyneiddwyr Dadeni'r Gogledd.
Rudolf Agricola | |
---|---|
Portread diweddarach (tua 1532) o Rudolf Agricola gan Lucas Cranach yr Hynaf. | |
Ganwyd | 28 Awst 1443, 17 Chwefror 1444 Baflo |
Bu farw | 27 Hydref 1485, 28 Hydref 1485 Heidelberg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfansoddwr, academydd |
Cyflogwr |
Ganed ef yn Baflo, a chafodd elfennau ei addysg yn Ysgol St Maarten yn Groningen cyn derbyn gradd baglor o Brifysgol Erfurt ym 1458 a gradd meistr o Leuven ym 1465. Un o Frodyr y Bywyd Cyffredin ydoedd, ac astudiodd weithiau Nikolaus von Kues yn frwd. Astudiodd hefyd ym mhrifysgolion Cwlen, Padova, a Ferrara, ac yn yr Eidal daeth dan ddylanwad neo-glasuriaeth y Dadeni Dysg. Yn wahanol i nifer o'r ddyneiddwyr Eidalaidd, daliodd Rudolf yn selog at yr Eglwys Gatholig, gan ddefnyddio'r ymadrodd Philosophia Christi i ddisgrifio'i syniadaeth o gymodi doethineb y byd clasurol â'r ffydd Gristnogol.
Dechreuodd yn ei dri degau ysgrifennu ei brif weithiau, gan gynnwys anerchiad er mawl i athroniaeth (1476), ei fywgraffiad o'r bardd Petrarca (1477), De Inventione Dialectica libri tres (1479), a'i ohebiaeth doreithiog â gwŷr hyddysg eraill yr oes. Daeth yn enwog am ei feistrolaeth ar yr ieithoedd Lladin, Groeg, ac Hebraeg, a chyflawnodd cyfieithiad o Lyfr y Salmau o'r Hebraeg Feiblaidd i Ladin.
Yn niwedd y 1470au a dechrau'r 1480au, teithiodd Agricola ar draws yr Iseldiroedd a gogledd-orllewin yr Almaen gan ymweld â sawl prifysgol. Ym 1484 derbyniodd wahoddiad oddi ar Johann von Dalberg, Esgob Worms, i ddarlithio ar bwnc llenyddiaeth glasurol ym Mhrifysgol Heidelberg, ac yno ysgrifennodd draethawd am addysg, De formando studio. Bu farw yn Heidelberg, oddeutu 42 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Rodolphus Agricola. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2023.