Dinas yn Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Heidelberg, gyda phoblogaeth o oddeutu 140,000 o bobl. Mae prifysgol hynaf yr Almaen wedi ei lleoli yno, y Ruprecht-Karls Universität, a sefydlwyd yn 1386. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am ei chastell (schloss) ac am ei lleoliad ar lannau'r Afon Neckar. Mae'r ddinas a'i hadeiladau yn hardd iawn ac yn boblogaidd efo twristiaid o'r byd i gyd. Ar nifer o achlysuron ar hyd y flwyddyn mae'r castell yn cael ei oleuo ac yn aml ceir hefyd tan gwyllt.

Heidelberg
Mathdinas fawr, residenz, dinas Luther, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, rhanbarth ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth162,273 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEckart Würzner Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2, amser haf Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Mostar, Caergrawnt, Montpellier, Rehovot, Simferopol, Bautzen, Calamba, Kumamoto, Palo Alto, Hangzhou, Jelenia Góra Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Fetropolitan Rhine-Neckar, Ardal Lywodraethol Karlsruhe, Nachbarschaftsverband Heidelberg-Mannheim Edit this on Wikidata
SirArdal Lywodraethol Karlsruhe Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd108.89 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr114 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Neckar Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMannheim, Rhein-Neckar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.4122°N 8.71°E Edit this on Wikidata
Cod post69001 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEckart Würzner Edit this on Wikidata
Map
Cyfartaledd plant1.1 Edit this on Wikidata
Heidelberg
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.