Rurik
Penadur Farangaidd oedd Rurik (Hen Norseg: Hrøríkʀ trawslythreniad: Hrorekr, Hen Slafoneg Dwyreiniol: Рюрикъ Ryurikŭ, Rwseg ac Wcreineg: Рюрик Ryurik, Belarwseg: Рурык Rurik; tua 824 – 879) a wnaeth, yn ôl hanes traddodiadol y Slafiaid Dwyreiniol, sefydlu brenhinllin y Rurik fel Tywysog Novgorod.
Rurik | |
---|---|
Cerflun o Rurik ar gofeb Mileniwm Rwsia yn Detinets (neu Gremlin) Veliky Novgorod. | |
Ganwyd | 830 |
Bu farw | c. 879 Veliky Novgorod |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Grand Prince of Novgorod |
Priod | Efanda |
Plant | Igor o Kiev |
Perthnasau | Oleg o Novgorod |
Llinach | Rurik dynasty |
Yn ôl Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, Rurik oedd un o dri brawd o Farangiaid—Llychlynwyr a ymsefydlodd yn Nwyrain Ewrop—a ddaeth i osod seiliau gwladwriaeth gyntaf llwyth y Rws yn 862. Datganwyd Rurik yn Dywysog Novgorod, Sineus yn Dywysog Beloozero, a Truvor yn Dywysog Izborsk.
Mae hanesyddion diweddar wedi bwrw tybiaethau eraill am hanes Rurik. O bosib fe ddaeth o benrhyn Lychlyn neu Jylland tua 855 i sefydlu cadarnle ar lannau Llyn Ladoga, ac oddi yno i orymdeithio ar hyd Afon Volkhov a chipio Novgorod. Yn ôl theori arall, hurfilwyr oedd Rurik a'i fyddin, yn gwasanaethu rhyw benadur arall yn ardal y Volkhov a'r Dnieper, a wrthryfelodd yn erbyn eu cyflogwyr.[1]
Bu farw Rurik yn 879, a symudodd ei olynydd, Oleg, i Kyiv yn 882 i sefydlu Rws Kyiv.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Rurik. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2022.