Rws Kyiv
Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar oedd Rws Kyiv (o'r enw Rwseg diweddar Ки́евская Русь; enwau gwreiddiol: Hen Slafoneg y Dwyrain:Роусь (Rusĭ) neu роусьскаѧ землѧ (rusĭskaę zemlę) sef "Gwlad y Rws", Hen Norseg: Garðaríki). Ffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y 9g, gan barhau tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y 13g. Dinas Kyiv oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kyiv gyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.
Rws Ciefaidd роусьскаѧ землѧ rusĭskaę zemlę | |||||
| |||||
| |||||
---|---|---|---|---|---|
Darn arian gyda arfbais Tywysog Yaroslaf y Doeth | |||||
![]() Map yn dangos maintioli Rws Kyiv tua 1000.
| |||||
Prifddinas | Kyiv | ||||
Ieithoedd | Hen Slafoneg Dwyreiniol | ||||
Crefydd | Yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth absoliwt | ||||
Uchel Tywysog | Oleg Y Doeth (cyntaf) | ||||
Michael Chernihiv (olaf) | |||||
Hanes | |||||
- | Sefydlwyd | 882 | |||
- | Diddymwyd | 1240 | |||
Heddiw'n rhan o |
Mae enw Rws yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y 9g.
Mae hanesyddion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.