Llyn dŵr croyw mwyaf Ewrop yw Llyn Ladoga (Rwsieg Ла́дожское о́зеро / Ladozhskoe ozero), wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y Môr Baltig yng Ngweriniaeth Karelia ac Oblast Leningrad.

Llyn Ladoga
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolUnified Deep Water System of European Russia Edit this on Wikidata
SirOblast Leningrad, Karelia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd17,700 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4.84 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.8428°N 31.4597°E Edit this on Wikidata
Dalgylch276,500 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd219 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth

golygu

Mae'r llyn yn gorchuddio arwynebedd o rhwng 17.7 (heb ynysoedd) ac 18.4 (gan gynnwys ynysoedd) mil km2. Ei hyd (o'r gogledd i'r dde) yw 219 km, a'i led cyfartal yw 83 km. Mae ef ar ei ddyfnaf yn y gogledd-orllewin, lle ceir y man dyfnaf, 230m. Ei ddyfnder cyfartal yw 52m. Mae'n llifo i mewn i Gwlff y Ffindir ar hyd Afon Neva drwy St Petersburg. Y Neva yw'r unig afon i lifo allan ohono, ond mae'n dwyn ei ddŵr oddi wrth tua 3500 o isafonydd sy'n llifo i mewn iddo. Y prif isafonydd yw'r Svir, y Volkhov, y Vuoksi a'r Syas. Mae'r llyn yn cynnwys tua 660 o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys yr Ynysoedd Valaam. Y prif drefi ar ei lannau yw Shlisselburg, Novaya Ladoga, Syasstroy, Pitkyaranta, Sortavala, Lakhdenpokhya a Priozersk.

 
Llyn Ladoga

Hyd y 13g, enw'r llyn oedd Llyn Nevo. Ailenwyd ar ôl y dref fasnachol o'r un enw (Staraya Ladoga) ar ei lannau. Roedd y rhan ogledd-orllewinol o'r llyn yn rhan o'r Ffindir tan 1940.

Gweler hefyd

golygu