Russell Jones (actor)

Actor a cherddor yw Russell Jones (ganwyd 1978 ym Mangor, Gwynedd). Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Y Creuddyn ac Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.[1]

Russell Jones
Ganwyd1978 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Cychwynnodd ar ei yrfa actio yn 1999 gyda rhannau bach mewn theatr ledled y Deyrnas Unedig. Yn 2001 cafodd un o'r prif rannau yng nghyfres Tipyn o Stad ar S4C, yn chwarae y cymeriad Laurence "Stud" Williams am bedair blynedd.

Fe ymddangosodd yn y ffilm arswyd Brydeinig The Zombie Diaries yn chwarae'r cymeriad Goke a chwaraeodd Tom yn y ffilm gyffro trosedd NightDragon. Mae The Zombie Diaries wedi magu dilyniant gwlt ac yn adnabyddus ym myd ffilmiau sombi.

Mae ymddangosiadau eraill yn cynnwys Casualty (pennod 407, Can't Let Go, 18 Hydref 2003, yn chwarae "Max Hart") ac fel plisman mewn pennod o Torchwood, y cymeriad Roger yng nghyfres deledu Caerdydd ar S4C a nifer o ffilmiau byr a dramau radio.[1][2]

Fe gyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd dilyniant i The Zombie Diaries yn cael ei ryddhau yn fuan yn dwyn y teitl World of the Dead: The Zombie Diaries: The Saga Continues.[3]

Gyrfa gerddorol golygu

Yn hwyr yn 2010 fe ail-gydiodd Russell yn ei yrfa gerddorol a daeth yn aelod sylfaen o'r band indi Cherry White. Mae'r band yn chwarae gigs rheolaidd yn Llundain ac wedi cael ei chwarae am y tro cyntaf ar BBC Radio Wales.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Russell Jones". castingcallpro.com. blue compass ltd.
  2. "Russell Jones". Imdb. Cyrchwyd 12 October 2009.
  3. http://www.imdb.com/news/ni9042869/
  4. Gwefan Cherry White, Bandcamp; Adalwyd 2015-12-23

Dolenni allanol golygu