Ruyton-XI-Towns
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Ruyton-XI-Towns[1] (hynny yw, Ruyton Eleven Towns; IPA: /ˈraɪtən ɪˈlɛvən taʊnz/).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 1,249 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.7935°N 2.899°W |
Cod SYG | E04012266 |
Cod OS | SJ393221 |
Cod post | SY4 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,379.[3]
Cafodd y pentref ei enw anarferol yn y 12g pan adeiladwyd castell yn y Mers, a daeth yn faenor i un ar ddeg trefgordd leol. Mae'r rhifolion Rhufeinig am "un ar ddeg" wedi'u gynnwys yn yr enw. Mae rhai o'r un ar ddeg trefgordd hynafol, sydd wedi'u lleoli i'r gogledd a'r gorllewin o Ruyton, yn dal i oroesi fel pentrefannau heddiw; er mai dim ond casgliad o adeiladau fferm yw rhai, fel Coton. Yr un ar ddeg oedd Ruyton, Coton, Shotatton, Shelvock, Eardiston ac Wykey, sy'n aros yn y plwyf; a Felton, Haughton, Rednal, Sutton a Tedsmore, sydd bellach ym mhlwyf West Felton.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
- Gerddi Tŷ Brownhill
- Packwood Haugh (ysgol)
- Y Groes
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 10 Ebrill 2021
- ↑ BBC Pronouncing Dictionary of British Names (Oxford, 1971)
- ↑ City Population; adalwyd 10 Ebrill 2021