Rws Kyiv
Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar oedd Rws Kyiv (o'r enw Rwseg diweddar Ки́евская Русь; enwau gwreiddiol: Hen Slafoneg y Dwyrain:Роусь (Rusĭ) neu роусьскаѧ землѧ (rusĭskaę zemlę) sef "Gwlad y Rws", Hen Norseg: Garðaríki). Ffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y 9g, gan barhau tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y 13g. Dinas Kyiv oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kyiv gyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Kyiv |
Poblogaeth | 5,400,000 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hen Slafeg dwyreiniol |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rws Kyiv |
Arwynebedd | 1,330,000 km² |
Cyfesurynnau | 50.45°N 30.525°E |
Sefydlwydwyd gan | Oleg o Novgorod |
Arian | kuna, grivna, nogata |
Mae enw "Rws" yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y 9g.
Mae hanesyddion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.