Un o bedwar timau Rygbi'r Undeb proffesiynnol ynys Iwerddon yw Rygbi Ulster (Gwyddeleg: Rugbaí Uladh). Maent yn cystadlu yn y Pro14 ac yn cynrychioli cangen Ulster, sef un o bedwar rhanbarth hanesyddol Iwerddon. Yn wahanol i'r tair rhanbarth arall, sydd yn gyfan gwbl o fewn Gweriniaeth Iwerddon, mae Ulster wedi'i rhannu rhwng y Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon, er bod y mwyafrif helaeth - gan gynnwys Belffast, lle mae'r tîm yn chwarae yn Stadiwm Kingspan sydd â lle i 18,196 o wylwyr - yn y Gogledd.

Rygbi Ulster
Llysenw/auThe Ulstermen
Sefydlwyd1879; 145 blynedd yn ôl (1879)
LleoliadBelffast, Gogledd Iwerddon
Maes/yddKingspan Stadium (Nifer fwyaf: 18,196)
CadeiryddShane Logan
Cyfarwyddwr RygbiLes Kiss
CaptenRob Herring
Andrew Trimble
Mwyaf o gapiauRoger Wilson (221)
Sgôr mwyafDavid Humphreys (1,585)
Mwyaf o geisiadauAndrew Trimble (71)
Cynghrair/auPro14
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gwefan swyddogol
www.ulsterrugby.com

Ffurfiwyd tîm i gynrychioli Ulster mor bell yn ôl a 1879, fodd bynnag dim ond ers 1995 bu'r tîm yn broffesiynol. Ymunodd y tîm â'r Gynghrair Geltaidd (bellach y Pro14) pan ffurfiwyd y gystadleuaeth yn 2001. Enillodd Ulster y Gynghrair Geltaidd yn 2006, a Chwpan Heineken (Cwpan Pencampwyr Ewrop bellach) yn 1999.