Dewiniaeth Caos

(Ailgyfeiriad o Hud Caos)

Mae dewiniaeth caos (Saesneg: Chaos Magic) yn ysgol o ddewiniaeth sy'n pwysleisio'r defnydd pragmatig o systemau cred a chreu dulliau anuniongred a newydd.

Mae'r "Caosffer" yn symbol poblogaidd o fewn dewiniaeth caos.

Egwyddorion cyffredinol

golygu
 
Defod sy'n defnyddio cynhadleddu-fideo.

Er bod rhai technegau yn unigryw i ddewiniaeth caos (megis y defnydd o seliau), mae dewiniaeth caos yn aml yn unigoledig iawn ac yn benthyg yn hael o systemau cred eraill, gan fod dewiniaeth caos yn gweld cred fel offeryn. Ymhlith ffynonellau ei hysbrydolaeth ceir ffuglen wyddonol, damcaniaethau gwyddonol, dewiniaeth ddefodol draddodiadol, siamanaeth, athroniaeth y Dwyrain, crefydd ac arbrofi personol. Serch yr amrywiaeth eang o ymarferion unigoledig, mae dewiniaid caos (caotiaid fel y'u gelwir hefyd) yn aml yn gweithio gyda pharadeimau anhrefnus a digrif. Defnyddir cyffuriau seicodelig gan rai mewn techneg a elwir yn cemognosis (hynny yw "gnosis cemegol").

Tarddiadau a chreadigaeth

golygu

Cafodd yr ysgol hon o ddewiniaeth ei chreu yng Ngorllewin Swydd Efrog, Lloegr, yn y 1970au.[1] Trwy dechnegau amrywiol sydd yn aml yn debyg i ddewiniaeth ddefodol neu neo-siamanaeth, mae llawer o ymarferwyr yn credu y gallant newid eu profiadau goddrychol a'u realiti gwrthrychol y naill a'r llall, er bod rhai'n dadlau nad yw dewiniaeth yn gweithio trwy foddion goruwchnaturiol.

Yn ôl rhai cyfarfod a gafwyd rhwng Peter J. Carroll a Ray Sherwin yn Deptford ym 1976 oedd yn gyfrifol am greu'r ddisgyblaeth newydd,[2] ac ym 1978 sefydlwyd yr Illuminates of Thanateros (IOT) gan Carroll a Sherwin,[1] cymdeithas o ddewiniaid caos. Datblygwyd y persbectif newydd, arbrofol hwn gan Liber Null, llyfr gan Peter J. Carroll (1978), a esboniodd bersbectif newydd o ddewiniaeth, a elwir bellach yn ddewiniaeth caos. Mae Liber Null, ynghyd â Psychonaut (1981) gan yr un awdur, yn dal yn ffynonellau pwysig.

Dylanwadau

golygu
 
Austin Osman Spare

Roedd yr arlunydd a chyfriniwr Austin Osman Spare, a oedd yn aelod dros dro o gymdeithas Argenteum Astrum,[3] yn ddylanwad mawr ar ddatblygiad dewiniaeth caos. Datblygodd Spare ddamcaniaeth ac ymarfer a fyddai, ar ôl ei farwolaeth, yn eithriadol o ddylanwadol ar yr Illuminates of Thanateros. Yn bendant, datblygodd Spare y defnydd o seliau a gnosis. Roedd Spare hefyd yn arloeswr ym maes datblygu gwyddor gysegredig bersonol, ac yn arlunydd dawnus a ddefnyddiai delweddau fel rhan o'i dechneg o ddewino. Er bu farw Spare cyn ymddangosiad dewiniaeth caos, mae llawer o'r farn mai ef yw tad y ddisgyblaeth oherwydd ei ddiraddeliad o systemau traddodiadol o ddewiniaeth.

Ar ôl marwolaeth Aleister Crowley a Spare, roedd dewiniaeth fel yr oedd hi'n cael ei hymarfer gan isddiwylliant ocwlt ym Mhrydain yn tueddu i fod yn fwy arbrofol, personol a llai cysylltiedig â thraddodiadau yr urddau sefydlog. Ymhlith y rhesymau am hynny oedd argaeledd cyhoeddus gwybodaeth ar ddewiniaeth a fu'n gyfrinachol gynt, yn bennaf yng ngwaith Crowley ac Israeli Regardie), dewiniaeth anuniongred radicalaidd Zos Kia Cultus Austin Osman Spare, dylanwad Anghytgordiaeth a'i boblogeiddiwr Robert Anton Wilson.

Y dyddiau cynnar

golygu

Nid oedd argraffiad cyntaf Liber Null yn cynnwys y term "dewiniaeth caos", ond yn cyfeirio at ddewiniaeth neu "y grefft ddewinol" yn gyffredin yn unig.[4] Mae testunau o'r cyfnod hwn yn datgan yn gyson y dylid mabwysiadu egwyddorion byd-eang yng nghyswllt dewiniaeth, yn hytrach na dull penodol newydd neu draddodiad. Roeddent yn disgrifio eu newyddbethau fel ymdrechion i amddifadu dewiniaeth o syniadau ofergoelus a chrefyddol. Mae Psychonaut yn defnyddio'r label o "swyngyfaredd unigoledig fel y'i dysgwyd gan yr Illuminates of Thanateros]".[4]

Daeth caos i fod yn rhan o'r symudiad hwn fel y'i diffiniwyd fel "y 'peth' sydd yn gyfrifol am darddiad a gweithred a barheir o ddigwyddiadau[...]. Gellid ei alw'n Dduw neu Dao, ond mae'r enw Chaos yn ddiystyr go iawn ac yn rhydd o syniadau plentynnaidd anthropomorffaidd o grefydd."[4] Defnyddir y Symbol o Gaos, y caosffer sydd, yn ôl rhai, yn hanu o nofelau ffantasi Michael Moorcock, fel symbol. Yn ôl Carroll mae agwedd anhrefnus ddewiniaeth hon yn anelu am anarchiaeth seicolegol gyda'r bwriad o greu ysbrydoliaeth a goleuant drwy anhrefnu ein systemau cred.[4]

Ymledu

golygu

Er bod cymdeithasau fel yr IOT yn bodoli, fel arfer mae'r ddisgyblaeth yn cael ei hymarfer gan unigolion yn hytrach na grwpiau neu gymdeithasau cyfundrefnol, a disgrifir dewiniaeth caos fel symudiad llaes. Mae ymarferwyr unigol yn manteisio ar ddeunydd sydd eisoes yn bodoli gan ymgorffori cysyniadau eraill, megis Theori Caos, ffiseg cwantwm, hypnosis ac ati.

Mae awduron nodedig ar ddewiniaeth caos yn cynnwys John Balance, Peter J. Carroll, Jan Fries, Jaq D. Hawkins, Phil Hine, Alan Moore, Grant Morrison, Ian Read, Ray Sherwin, Ramsey Dukes, Lionel Snell, a Ralph Tegtmeier.

Termau ac ymarferiadau o fewn dewiniaeth caos

golygu

Gnosis

golygu

Cysyniad a gafodd ei gyflwyno gan Carroll yw gnosis. Caiff hyn ei ddiffinio fel cyflwr arbennig o ymwybyddiaeth sydd yn ei ddamcaniaeth ef o ddewiniaeth yn rheidiol i weithio'r rhan fwyaf o ffurfiau o ddewiniaeth.[4] Mae hynny'n ymadawiad â chysyniadau hŷn a'r oedd yn disgrifio egnïon, ysbrydion neu weithredoedd arwyddluniol fel tarddiad pwerau hudol. Mae'r cysyniad yn tarddu o'r cysyniad Bwdhaidd o Samadhi, a ddaeth yn boblogaidd yn ocwltiaeth y Gorllewin trwy waith Aleister Crowley ac a gafodd ei fforio'n bellach gan Austin Osman Spare.

Mae gnosis yn cael ei chyflawni pan yw'r meddwl yn cael ei ganolbwyntio ar un pwynt, meddwl, neu gyrchnod yn unig a dim byd arall. Mae pob ymarferwr hud caos yn datblygu ffordd ei hun i gyrraedd y cyflwr hwn. Seilir pob dull ar y gred bod meddwl syml neu gyfeiriad a brofir yn ystod gnosis ac sydd yn cael ei anghofio'n fuan wedyn yn cael ei anfon i'r isymwybod, yn hytrach na'r meddwl ymwybodol, lle gallai gael ei ddeddfu trwy foddion sydd yn anhysbys i'r meddwl ymwybodol. Disgrifir tri math o gnosis:[5]

  • Gnosis ymataliol, sef dull o fyfyrdod dwfn i mewn i gyflwr o berlewyg, math o gnosis sy'n defnyddio technegau o anadlu'n araf a rheolaidd, prosesau meddwl absennol, ymlacio corfforol cynyddol, hunan-anwytho a hunan-hypnosis. Gallai'r moddion a ddefnyddir gynnwys ymprydio, peidio cysgu, amddifadiad synhwyrol a chyffuriau sy'n achosi perlewyg.
  • Gnosis cynhyrfol, sy'n disgrifio cyflwr o anfeddylgarwch a gyrheiddir drwy gynhyrfiad dwys megis cynhyrfiad rhywiol, emosiynau dwys, fflangelliad, dawns, drymio, siantio, gorlwytho synhwyrol, y "ffordd iawn o gerdded"[6] a ddisgrifiai Carlos Castaneda yn ei lyfrau, goranadlu a'r defnydd o gyffuriau diluddiannol.
  • Gwacter di-hid, a ddisgrifiai Phil Hine a Jan Fries fel y trydydd dull o gnosis. Gyda'r dull hwn mae'r swyn yn cael ei greu'n ymsangol, ac felly nid oes lawer o feddyliau i'w gostegu.[7]

Yn ôl y gred hon, ni ystyrier defodau penodol, myfyrdodau ac elfennau eraill a geir mewn ffurfiau traddodiadol o ddewiniaeth i fod yn amgenach na dechnegau o gnosis.

Symudiad paradeim

golygu

Un o nodweddion mwyaf trawiadol dewiniaeth caos yw'r cysyniad o'r "symudiad paradeim". Gan ddefnyddio term o'r athronydd Thomas Kuhn, datblygodd Carroll y dechneg o newid byd-olwg (neu baradeim) rhywun ar hap. Mae'r cysyniad yn un hanfodol i ddewiniaeth caos.[4] Enghraifft o symudiad paradeim yw cyflawni defod Lovecraftaidd ac wedyn dilyn techneg o lyfr Edred Thorsson yn y ddefod ganlynol. Mae'r ddau baradeim yn wahanol iawn, ond wrth i'r unigolyn ddefnyddio un, mae'n credu ynddo yn gyfan gwbl gan anwybyddu pob un arall.

Erbyn hyn, mae'r syniad o symud paradeimau wedi treiddio i waith traddodiadau eraill, ond dewiniaeth caos yw maes datblygu pennaf y cysyniad.

Symbylau a Duwiau

golygu

Mae dewiniaeth caos yn unigryw o blith traddodiadau dewinol am nad yw'n rhoi arwyddocâd i unrhyw symbol neu dduw yn arbennig. Ni allai Wica neu Thelema, er enghraifft, fod fel y maent heb y Fam Dduwies (Wica) a Horws (Thelema). Gallai dewiniaid caos ddefnyddio (neu beidio defnyddio) unrhyw gysyniad neu grŵp o gysyniadau i addoli, galw, neu gonsurio unrhyw dduw neu dduwies. Mae duwiau traddodiadol caos fel Tiamat, Eris, Loki a Hun Tun yn boblogaidd, a phoblogaidd hefyd yw'r endidau a ddisgrifir yn y Necronomicon yn ffuglen H P Lovecraft.

Cred fel offeryn

golygu

Mae dewiniaeth caos yn ystyried cred i fod yn rym dewinol gweithgar. Pwysleisir hyblygrwydd cred a'r gallu i ddewis credoau'n ymwynodol, gyda'r bwriad o ddefnyddio'r gred fel offeryn.[8] Defnyddir technegau amrywiol i hyrwyddo hyblygrwydd cred.[9] Mae rhai dewiniaid caos yn mynnu nad yw cred yn hanfodol i ddewino.[10]

Pwyslais ar ddefodolaeth greadigol

golygu

Mae addasu defodau a dyfeisio defodau newydd yn rhan bwysig o ddewiniaeth caos. Mae'r syniad fod systemau cred a thechnegau gnosis yn gydgyfnewidiol wedi arwain at greu amrywiaeth eang o ymarferion dewinol.[4][11][12][13] Mae llawer o awduron yn annog darllenwyr i ddyfeisio eu steil o ddewiniaeth eu hun.[14][15][16] Yn Liber MMM, hyfforddwr sylfaenol dewiniaeth caos sy'n orfodol i aelodaeth yr IOT, gofynnir i'r myfyriwr greu ei ddefod o ddiarddeliad ei hun.[4]

Mewn diwylliant poblogaidd

golygu

Mae dewiniaeth caos wedi cael ei grybwyll yn lleoedd fel DC Comics, Marvel Comics, Buffy the Vampire Slayer, Undine, a Breathe (olynydd i Undine). Mae Grant Morrison wedi cynnwys portread dramatig o ddamcaniaethau dewiniaeth caos a'i hymarferion yn ei nofel raffig The Invisibles.

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Condensed Chaos, 1995. Phil Hine, ISBN 1-56184-117-X.
  2. Lancaster University Pagan Society. Chaos Magic: A brief introduction by Jez
  3. Knowles, George. Austin Osman Spare (1886–1956)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Liber Null & Psychonaut, 1987. Peter Carroll, ISBN 0-87728-639-6
  5. Hands-On Chaos Magic, 2009. Andrieh Vitimus, ISBN 978-0-7387-1508-7
  6. "The Right Way of Walking". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-20. Cyrchwyd 2010-03-09.
  7. Visual Magick: A Handbook of Freestyle Shamanism, Jan Fries. Mandrake 1992. ISBN 1-86992-857-1
  8. The Book of Results, 1978. Ray Sherwin, ISBN 1-4116-2558-7
  9. Liber Kaos, 1992. Peter Carroll, ISBN 0-87728-742-2
  10. Pop Magic! Grant Morrison from The Book of Lies, edited by Richard Metzger ISBN 0-9713942-7-X
  11. Sacred Texts: Chaos Magic
  12. "Temple X'FOD Reference Library". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-09. Cyrchwyd 2010-03-09.
  13. Chaos Magick Files
  14. Prime Chaos, 1993. Phil Hine, ISBN 1-56184-137-4
  15. Seidways, 1997. Jan Fries, ISBN 1-869928-36-9
  16. Understanding Chaos magic, 1996. Jaq D. Hawkins, ISBN 1-898307-93-8