Sólheimajökull

Rhewlif, Gwlad yr Iâ

Mae Sólheimajökull yn rewlif yn ne Gwlad yr Iâ rhwng llosgfynyddoedd Katla a Eyjafjallajökull. (Eyjafjallajökull oedd y llosgfynydd enwog a ffrwydrodd yn 2010 gyda'i lludw gan achosi trafferthion i awyrenau hedfan i'r ynys.)[1]

Sólheimajökull
Mathrhewlif Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMýrdalsjökull Edit this on Wikidata
GwladGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.551°N 19.312°W, 63.564987°N 19.297485°W, 63.562865°N 19.29632°W Edit this on Wikidata
Hyd10 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHighlands of Iceland Edit this on Wikidata
Map
Pen blaen rhewlif Sólheimajökull yn 1910.
Pen blaen rhewlif Sólheimajökull yn 2007.

Mae rhewlif Sólheimajökull tua deg cilomedr o hyd, gan ffurfio tafod rhewlifol Mýrdalsjökull. Mae'n llifo tua'r de ac yn rhoi genedigaeth i afon, y Jökulsá i Sólheimasandi, sy'n llifo fewn i'r Iwerydd. Mae gan yr afon hon y ffugenw "yr afon ddewllyd" oherwydd y solfatariaid daw ohono (math o fumarole yw solfatar sy'n rhyddhau symiau mawr o sylffwr. Mae'r term hwn hefyd yn cyfeirio at y dyddodion sylffwr ynddynt eu hunain. Daw ei enw o'r Solfatara, crater folcanig o'r Eidal, ym maestrefi Napoli).

Mae'n ran o rewlif llawer mwy o'r enw, Mýrdalsjökull. Mae Sólheimajökull yn atyniad twristiaeth boblogaidd oherwydd ei faint a'r ffaith ei fod yn gymharol hawdd i'w gyrraeddd.[2]

Daeareg golygu

Gorwedd Sólheimajökull fel rhan o'r rhewlif fwy, Mýrdalsjökull, sydd ei hyn yn gorwedd ar ben caledra Katla. Mae'r rhewlif yn dadmeryn sydyn oherwydd cynhesu tymhorol blynyddol sydd wedi ei achosi gan newid hinsawdd. Mae'n bosib y bydd nifer o rewlifoedd Gwlad yr Iâ wedi diflannu o fewn y can mlynedd nesa.[angen ffynhonnell]

panorama o rewlif Sólheimajökull

Cyfeiriadau golygu

  1. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8620000/newsid_8623000/8623016.stm
  2. "This Glacier in Iceland is Awesome to Explore but it is Disapearing". Stuck in Iceland (yn Saesneg). 2013-04-29. Cyrchwyd 2018-03-28.

Cyfesurynnau: 63°33′N 19°18′W / 63.550°N 19.300°W / 63.550; -19.300