Schutzstaffel
(Ailgyfeiriad o S.S.)
Roedd y Schutzstaffel, mwy adnabyddus fel yr SS, yn gorff milwrol a diogelwch yn y cyfnod Natsïaidd yn yr Almaen.
Sefydlwyd yr SS yn 1925 fel gwarchodlu personol i Adolf Hitler. Ar y dechrau, roedd yn uned o'r Sturmabteilung (SA). Dan arweiniad Heinrich Himmler rhwng 1929 a 1945, tyfodd i fod yn un o'r cyrff mwyaf pwerus yn yr Almaen. Roedd dwy ran i'r SS, yr Allgemeine-SS, adran wleidyddol y mudiad, a'r Waffen-SS, yr adran filwrol oedd yn ymladd wrth ochr y fyddin heb fod yn rhan ohoni.
Bu gan yr SS ran amlwg iawn yn yr Holocost; hwy oedd yn gyfrifol am y gwersylloedd difa.
Penaethiaid yr SS
golyguJulius Schreck (1925–1926)
Joseph Berchtold (1926–1927)
Erhard Heiden (1927–1929)
Heinrich Himmler (1929–1945)
Karl Hanke (1945)