Mae S4C Clic yn wasanaeth ar-lein a ddatblygwyd gan y sianel deledu S4C sy'n galluogi defnyddwyr i wylio rhaglenni a ddarlledwyd ar y sianel ar alw am gyfnod o hyd at 35 diwrnod. Mae hefyd yn rhoi'r dewis o wylio S4C yn fyw a gwylio rhaglenni Cyw drwy'r dydd. Mae ap S4C Clic ar gael ar iOS, Android, YouView, setiau teledu Samsung, ac Amazon Fire TV.

Gwefan S4/Clic
Hafan S4/Clic
Gwefan http://www.s4c.co.uk/clic/


Daeth S4C a'r enw Clic i ben fel brand ar wahan yn Mehefin 2015, gan ddod a'r gwasanaeth o dan frand cyffredinol S4C.[1] Ers haf 2018 mae gwasanaeth ar alw S4C yn arddel y brand Clic unwaith eto gan ddylunio brand newydd iddo.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Dod â'r enw 'Clic' i ben (19 Mehefin 2015).
  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.