BBC iPlayer
BBC iPlayer
| |||||
---|---|---|---|---|---|
| |||||
Datblygwyr | BBC | ||||
Lansiad | Nadolig 2007 | ||||
Ieithoedd | Cymraeg, Saesneg, Gaeleg yr Alban | ||||
Ardal gwasanaeth | Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon | ||||
Gwefan | http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy Archifwyd 2011-02-24 yn Archive-It |
Mae BBC iPlayer yn wasanaeth a ddatblygwyd gan y BBC sy'n galluogi defnyddwyr y rhyngrwyd gyda band llydan i ddal i fyny gyda theledu'r wythnos cynt. Integrated Media Player (IMP) oedd enw gwreiddiol y chwaraewr cyfryngau, ac yna MyBBCPlayer. Gellir derbyn y gwasanaeth dros y rhyngrwyd ar gyfrifiadur personol, teledu cebl, iPhone, iPod touch a hefyd Nintendo Wii. Lansiwyd y gwasanaeth ar ddiwrnod Nadolig 2007.
Mae'r wefan nawr yn cynnwys rhaglenni Cymraeg a gynhyrchwyd gan y BBC megis Pobol y Cwm. Maen nhw hefyd wedi lansio fersiwn Cymraeg o'r wefan Archifwyd 2013-01-13 yn archive.today.
Argaeledd dros y môr
golyguMae'r ffaith bod cyhoeddiadau'r BBC yn cael eu hariannu gan bobl y Deyrnas Unedig (drwy'r drwydded deledu), yn ogystal â hawliau trydydd parti, yn golygu mai dim ond yng ngwledydd Prydain mae BBC iPlayer ar gael. Er hyn, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau radio (ac eithrio gwasanaethau chwaraeon byw) ar gael y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Trwydded deledu
golyguUn o wendidau pennaf BBC iPlayer yw gofynion ariannol y drwydded deledu. Gan fod pob rhaglen yn gallu cael ei gwylio am ddim dros yr we, mae rhai yn dweud fod trwydded, bellach, yn ddiangen. Fodd bynnag, mae'r BBC wedi datgan mai dim ond pobl sy'n gwylio'r rhaglenni'n fyw sydd angen trwydded.[1]
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ title=Episode 16|series=The Media Show|serieslink=The Media Show|airdate=2009-01-14|episode=16