SARLOC

meddalwedd achub mynydd a ddefnyddir i ddarganfod pobl mewn angen

SARLOC (talfyriad Search and Rescue Location) yw'r enw a roddir i system a ddyfeisiwyd gan Russ Hore o Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn 2009, i helpu timau achub i gael hyd i alwyr mewn angen.

Gweithred y system golygu

Mae'n dibynnu ar i'r galwr fod â ffôn clyfar gyda chysylltiad data symudol. Mae'r tîm yn gyrru neges destun at y galwr, sy'n cynnwys cyfeiriad gwe (URL) ar y gweinydd SARLOC, ac yn cynghori i'r galwr i glicio ar y ddolen a gynhwysir yn y neges destun. Pan yw'r galwr yn gwneud hyn, mae'r ffôn yn rhannu ei leoliad GPS gyda'r wefan, yn ogystal â thag (rhif adnabod unigryw) sy'n ffurfio rhan o'r cyfeiriad gwe yn y neges testun wreiddiol. Cyfathrebir y lleoliad, ynghyd â'r tag, i'r tîm achub, sydd yn eu caniatau i fynd yn uniongyrchol i leoliad y person mewn angen (o fewn sawl medr), yn hytrach na gorfod gwneud chwiliad eang. Gan fod y system yn defnyddio y porwr gwe sydd ar y ffôn clyfar yn barod, does dim angen i'r defnyddiwr lawrlwytho ap arbennig (er y disgrifir fel "ap" mewn ychydig adroddiadau'r wasg). Rhaid ond clicio'r ddolen ac ymateb i'r cwestiwn am ganiatad rhannu'r lleoliad gyda'r gweinydd.

Effaith y system golygu

Defnyddiwyd SARLOC am y tro cyntaf yn 2011 i gael hyd i berson oedd ar goll ar Yr Wyddfa, gan Dîm Achub Mynydd Llanberis. Yr ail waith, defnyddiwyd i gael hyd i bâr oedd ar goll ar Foel Siabod, gydag un ohonynt mewn cyflwr meddygol brys, yn rhwydd er eu bod mewn lleoliad hollol wahanol o'r hwn a nodwyd yn eu disgrifiad cychwynnol. Ers hynny, mae SARLOC wedi cael ei fabwysiadu gan nifer o dimau ledled Prydain Fawr a thramor, wedi'i ddefnyddio ar gannoedd o achlysuron, ac wedi cael y clod am achub llawer o fywydau. Mae SARLOC wedi cael ei ddefnyddio hefyd i osgoi angen galw allan y tîm, pan ddeuir yn amlwg bod y person colledig yn agos at lwybr a gall cynghori iddo dros y ffôn sut i gael hyd i'r llwybr.

Cyfeiriadau golygu