Moel Siabod
mynydd (872.2m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Mae Moel Siabod yn fynydd yn Eryri sy'n rhan o gadwyn fynydd Y Moelwynion.
![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 872 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0731°N 3.9325°W ![]() |
Cod OS | SH7052754634 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 599.9 metr ![]() |
Rhiant gopa | Glyder Fawr ![]() |
Cadwyn fynydd | Y Moelwynion ![]() |
![]() | |
Lleoliad
golyguMae Moel Siabod yn sefyll ar ei ben ei hun rhwng Betws-y-Coed, Capel Curig a Dolwyddelan yn Sir Conwy. I'r de-orllewin mae copa is, Carnedd y Cribau. Dywedir fod modd gweld 13 o'r 14 copa dros 3,000 o droedfeddi yng Nghymru o gopa Moel Siabod heb droi pen. Mae Canolfan Fynydda Genedlaethol Plas-y-Brenin wrth droed Moel Siabod, gerllaw Llynnau Mymbyr.
Llwybrau
golyguGellir dringo'r mynydd o bentref Capel Curig, gan ddechrau gerllaw Plas y Brenin, neu ychydig ymhellach ar hyd ffordd yr A5 gerllaw Pont Cyfyng a heibio Llyn y Foel. Gellir hefyd ei ddringo o ochr Dolwyddelan.