Sabrina Fortune
Athletwraig trac a maes Paralympaidd o Gymru yw Sabrina Fortune (ganwyd 25 Mai 1997) sy'n cystadlu mewn digwyddiadau taflu categori F20. Enillodd Fortune fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd yr Haf 2016 yn y siot, [1] a medal aur ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd 2019, hefyd mewn siot.[2]
Sabrina Fortune | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mai 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cafodd Fortune ei Geni yng Nghaer. Cafodd ei magu ym Mynydd Isa, yr Wyddgrug, ddyspracsia lleferydd sy’n gwneud cyfathrebu’n anodd iddi. [3] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Uwchradd Argoed, [4] ac wedi hynny astudiodd rheolaeth lletygarwch yng Ngholeg Cambria, Wrecsam.[3]
Yng Ngemau Paralympaidd yr Haf 2024 ym Mharis, enillodd Fortune y fedal aur yn yr ergyd F20, gyda record byd arall o 15.12m. [5] Derbyniodd yr OBE[6]ar y rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2025.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sabrina Fortune". thepowerof10.info. Cyrchwyd 10 Medi 2016.
- ↑ "Cockroft and Fortune start GB gold rush in Paris". BBC. Cyrchwyd 2 Medi 2024.
- ↑ 3.0 3.1 "Sabrina Fortune". Paralympic.org. International Paralympic Committee. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2020.
- ↑ Wyn-Williams, Gareth (10 Medi 2016). "Flintshire shot putter wins Paralympic medal". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2024.
- ↑ Wales, The clubs where Welsh Paralympians were made | Sport (2024-02-09). "The clubs where Welsh Paralympians were made". Sport Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-02.
- ↑ "Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Urddo Gerald Davies yn farchog". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 1 Ionawr 2025.