Saer troliau
- Am enghreifftiau eraill o seiri, gweler Saer (gwahaniaethu).
Crefftwr sy'n adeiladu a chyweirio olwynion pren yw saer troliau (hefyd saer certiau[1]). Mae crefft y saer troliau yn hynafol iawn ac yn dyddio o gyfnod y cerbydau olwynog cyntaf, megis certiau a cherbydau rhyfel. Yng ngwledydd Prydain bu'n rhan hanfodol o ddiwydiant cefn gwlad am ganrifoedd yn adeiladu certiau i ffermwyr ac eraill.
Mae'r saer troliau yn gwneud olwynion i gertiau gan ddechrau drwy adeiladu'r both olwyn, yr adenydd (spokes) a'r ymyl a'i rannau ac wedyn mae'n eu cysylltu a'i gilydd i greu'r olwyn gan weithio o'r both yn y canol allan i'r ymyl. Yn hanesyddol, pren oedd y deunydd mwyaf cyffredin ond defnyddid deunyddiau eraill fel asgwrn weithiau hefyd, yn bennaf fel addurniadau. Mewn olwynion cerbydau rhyfel cynnar defnyddidd croen anifeiliaid, e.e. gwartheg, i asio'r olwyn yn dynn; byddai'n cael ei roi ar y gwaith yn wlyb ac yn tynhau wrth sychu i dal darnau pren yr olwyn yn sownd. Canrifoedd lawer yn ddiweddarach dechreuwyd defnyddio platiau haearn ar yr adenydd a'r ymyl i'w cadw rhag cael eu treulio a hefyd i'w cadw'n dynn.