Bodffordd

pentref ar Ynys Mon

Pentref bychan a chymuned yn Ynys Môn yw Bodffordd[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Botffordd). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys ar y lôn gefn B5109 tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Langefni, ar ben deheuol Llyn Cefni. Tri chwarter milltir i'r de mae Heneglwys ac mae Bodffordd ei hun yn rhan o'r plwyf eglwysig honno.

Bodffordd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,529.425 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanddyfnan, Bodedern, Trewalchmai, Cymuned Llangefni, Bryngwran, Llannerch-y-medd, Tref Alaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.261944°N 4.362778°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000005 Edit this on Wikidata
Cod OSSH424765 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Fymryn i'r gorllewin o'r pentref ceir Maes Awyr Môn.

Hanes golygu

Ystyr yr enw Bodffordd yw 'Anedd ar y ffordd', sef yr hen ffordd fawr ar draws Môn, o Borthaethwy i Gaergybi. Roedd Bodffordd yn perthyn i Esgob Bangor gynt; gelwid y "dref" fechan yn Bodffordd Ddeiniol (ar ôl Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn ôl y traddodiad) neu Bodffordd Esgob.[3] Roedd yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.

Eisteddfod golygu

Cafodd Bodffordd ei ddewis fel lleoliad Eisteddfod Môn 2007.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bodffordd (pob oed) (960)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodffordd) (680)
  
72.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodffordd) (725)
  
75.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodffordd) (138)
  
32.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Rhagfyr 2021
  3. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 156.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.