Agor y brif ddewislen

Dinas yn Japan yw Saitama (Japaneg:さいたま市 Saitama-shi), prifddinas talaith Saitama a 10fed dinas fwyaf Japan o ran poblogaeth. Gan ei bod wedi ei lleoli o fewn Ardal Tokyo Fwyaf tua 30 kilometr i'r gogledd o ganol Tokyo mae cyfran fawr o'i phobl yn cymudo i Tokyo. Wedi ei ffurfio ar 1 Mai 2001 a'i dynodi ar 1 Ebrill 2003, mae Saitama yn enghraifft o ddinas dynodedig yn Japan a ddynodwyd trwy ordinhad llywodraeth sydd yn cael eu ffurfio drwy uno trefi a phentrefi cyfagos sydd a phoblogaeth o dros 500,000. Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd Japan, ysgrifennir enw'r ddinas gan ddefnyddio'r hiragana, er mai dyma oedd ail ddewis mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd mewn pleidlais i ddewis enw newydd y ddinas. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd y ffordd draddodiadol o ysgrifennu enw'r ddinas, hynny yw trwy ddefnyddio kanji (埼玉市) fel enw'r dalaith.

Saitama
Saitama city montage.jpg
Math Dinasoedd dynodedig Japan, prifddinas talaith Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,307,931, 1,263,979 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Mai 2001 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Hayato Shimizu Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Toluca, Zhengzhou, Nanaimo, Pittsburgh, Hamilton Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Saitama Edit this on Wikidata
Gwlad Japan Edit this on Wikidata
Arwynebedd 217.43 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 35.8617°N 139.6453°E Edit this on Wikidata
Cod post 11100-7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Dinas Saitama Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Hayato Shimizu Edit this on Wikidata
Saitama
Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am dalaith Saitama, gweler Saitama (talaith).

WardiauGolygu

Mae i Saitama ddeg o wardiau (ku), pob un a'i liw penodedig ers April 2005:

1 - Chūō-ku (Ystyr: Canol) 中央区 (Pinc tywyll)
2 - Iwatsuki-ku 岩槻区 (Oren)
3 - Kita-ku (Ystyr: Gogledd) 北区 (Gwyrdd tywyll)
4 - Midori-ku (Ystyr: Gwyrdd) 緑区 (Gwyrdd)
5 - Minami-ku (Ystyr: De) 南区 (Melyn)
6 - Minuma-ku 見沼区 (Glas golau)
7 - Nishi-ku (Ystyr: Gorllewin) 西区 (Glas)
8 - Ōmiya-ku (Ystyr: Prif Gysegr) 大宮区 (Oren tywyll)
9 - Sakura-ku (Ystyr: Coeden Geirios) 桜区 (Pinc golau)
10 - Urawa-ku 浦和区 (Coch) - canolfan weinyddol
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato