Saith Gysgadur Effeseus
Chwedl Gristnogol hynafol, a stori Islamaidd hefyd, yw Saith Gysgadur Effeseus (Groeg: ἑπτὰ κοιμώμενοι, rhufeinedig: hepta koimōmenoi – "Y Saith Gysgadur"; Lladin: Septem dormientes; Arabeg: Aṣḥāb al-Kahf, sef "Cymdeithion yr Ogof").
Enghraifft o'r canlynol | grŵp o bobl, Qur’an story |
---|---|
Yn cynnwys | Serapion |
Gwladwriaeth | Gwlad Iorddonen |
Rhanbarth | Twrci, Effesus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Chwedl
golyguYn ystod erledigaethau'r ymerawdwr Rhufeinig Decius, tua 250 OC, cyhuddwyd saith dyn ifanc o Effesus o fod yn Gristnogion. Gwrthodasant ymgrymu i eilunod Rhufeinig ond yn hytrach rhoddasant eu heiddo i'r tlodion ac encilio i ogof fynydd i weddïo, lle syrthiasant i gysgu. Gorchmynnodd yr Ymerawdwr i geg yr ogof gael ei selio.
Bu farw Decius yn 251, ac aeth llawer o flynyddoedd heibio pan aeth Cristnogaeth o gael ei herlid i fod yn grefydd wladol yr Ymerodraeth Rufeinig. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach — fel arfer rhoddir y dyddiad yn 447 OC, yn ystod teyrnasiad Theodosius II (408–450) — pan oedd dadl frwd rhwng amrywiol ysgolion Cristnogaeth am atgyfodiad y corff yn Nydd y Farn a bywyd ar ôl marwolaeth, penderfynodd tirfeddiannwr agor ceg yr ogof, er mwyn ei defnyddio fel corlan wartheg. Pan wnaeth hynny cafwyd y cysgwyr y tu fewn. Deffrasant, gan ddychmygu nad oeddent wedi cysgu ond un diwrnod, ac aeth un o'u plith i Effesus i brynu bwyd.
Wedi cyrraedd y ddinas, cafodd y dyn ei syfrdanu wrth ddarganfod adeiladau gyda chroesau ynghlwm wrthynt; cafodd pobl y ddinas eu syfrdanu wrth ddod o hyd i ddyn yn ceisio gwario hen ddarnau arian o deyrnasiad Decius. Galwyd yr esgob i gyfweld y cysgwyr; adroddasant hanes eu gwyrthiau wrtho, a buont farw yn moli Duw.[1]
Lledaenu'r chwedl yn y Gorllewin
golyguRoedd yr chwedl yn adnabyddus trwy gydol y Byd Cristionogol am ganrifoedd lawer. Fe'i poblogeiddiwyd yn y Gorllewin gan Grigor o Tours, yn ei gasgliad o wyrthiau o ddiwedd y 6g, De gloria martyrum. Yn ystod cyfnod y Croesgadau, cludwyd esgyrn o'r beddau ger Effesus, a adnabyddir fel creiriau'r Saith Cysgwr, i Marseille, Ffrainc, mewn arch garreg fawr, a oedd yn parhau i fod yn dlws Abaty Saint-Victor, Marseille. Mae'r stori wedi'i chynnwys yn Y Llith Euraid, llyfr mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol diweddarach,
Gŵyl
golyguMae Dydd y Saith Cysgadyr (Almaeneg: Siebenschläfertag) yn ŵyl sy'n cael ei dathlu ar 27 Mehefin mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith i goffau'r chwedl. Mae wedi ei ymgorffori mewn chwedlau tywydd traddodiadol yn y gwledydd hynny: mae tywydd y diwrnod hwnnw i fod i ragweld y tywydd dros y saith wythnos ganlynol.
Gweler hefyd
golygu- Y Saith Gysgadur, enw traddodiadol ar saith o anifeiliaid sy'n gaeafgysgu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Seven Sleepers of Ephesus", Catholic Encyclopedia; adalwyd 5 Awst 2024