Saith Seren, Wrecsam
Canolfan Gymraeg a Chymreig amlbwrpas a menter gydweithredol yn Wrecsam ydy Saith Seren.[1][2] Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad tafarn The Seven Stars yn Stryd Caer yn y dref.[3]
Math | canolfan gymunedol |
---|---|
Math o fusnes | menter gydweithredol |
Gwefan | http://www.saithseren.org.uk/, http://saithseren.com/ |
Hanes
golyguDechreuwyd ymgyrch yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 i godi arian ar gyfer Canolfan Gymraeg i'r dref.[4] Gwerthwyd cyfrandaliadau er mwyn sichrau prydles 21 mlynedd ar yr adeilad ac am waith adnewyddu, ac fe gyrhaeddwyd y nod erbyn diwedd mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Agorwyd Canolfan Gymraeg y Saith Seren ar 25 Ionawr 2012 gyda chyfleusterau bar a chegin ar gyfer paratoi bwyd.
Cyfleusterau
golyguCynhelir sesiynau sgwrsio i ddysgwyr, cyfarfodydd ac adloniant yn Gymraeg ac yn Saesneg yn rheolaidd a bydd dosbarthiadau Cymraeg cyn gynted ag y bydd ystafelloedd dosbarth yn barod.
Hanes yr adeilad
golyguAdeiladwyd tafarn The Seven Stars yn 1898 yn ôl cynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol hynod sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth Celf a Chrefft.[5] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Gweler hefyd
golygu- Clwb Ifor Bach, Caerdydd.
- Canolfan Cymry Llundain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Canolfan Gymreig: Ymateb 'anhygoel'. BBC Cymru (21 Medi 2011).
- ↑ Agor Saith Seren. Y Cymro (28 Ionawr 2012).
- ↑ Wrexham Pub To Become Welsh Cultural Centre. www.wrexham.com (24 Medi 2011).(Saesneg)
- ↑ Siôn Tecwyn (27 Ionawr 2012). Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam. BBC Cymru.
- ↑ Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam Archifwyd 2012-09-06 yn y Peiriant Wayback o wefan Cyngor Sir Wrecsam