Agor y brif ddewislen

Roedd Syr Samuel Frederick Edwards, FLSW FRS (1 Chwefror 1928 - 7 Mai 2015), a adnabuwyd yn gyffredinol fel 'Sam',[1] yn ffisegydd Cymreig.[2]

Sam Edwards
SamEdwardsBetter.jpg
Ganwyd 1 Chwefror 1928 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Mai 2015 Edit this on Wikidata (87 oed)
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth ffisegydd damcaniaethol, academydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Gwobr Boltzmann, Gwobr Dirac, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Ehrendoktor der Universität Straßburg, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Medal Davy, Medal a Gwobr Maxwell, ICTP Dirac Medal, Fellow of the Learned Society of Wales, Guthrie Medal and Prize Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysgGolygu

Ganed Syr Samuel ar 1 Chwefror 1928 yn Abertawe, yn fab i Richard a Mary Jane Edwards. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Esgob Gore, Abertawe, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, Prifysgol Manceinion, ac ym Mhrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau. Ysgrifennodd ei draethawd ymchwil dan Julian Schwinger ar strwythur yr electron, ac wedyn datblygodd y ffurf annatod swyddogaethol o theori maes.[2]

Ymchwil academaiddGolygu

Dechreuodd gwaith Edwards mewn ffiseg mater cyddwysedig ym 1958 gyda phapur [cyhoeddiadau 1] a oedd yn dangos y gallai priodweddau ystadegol systemau afreolus (gwydr, geliau ac ati) cael eu disgrifio trwy ddiagram Fenyman a dulliau llwybr integredig a dyfeisiwyd mewn theori maes cwantwm. Daeth ei bapur seminar [cyhoeddiadau 2] ym 1965 a sefydlodd mewn un strôc y ddealltwriaeth feintiol fodern o fater polymer [1] yn sail i Pierre-Gilles de Gennes ymestyn gwaith arloesol Edwards o 1965, gan arwain at Wobr Nobel 1991 i de Gennes mewn Ffiseg.[1]

Daeth theori Doi-Edwards o glud-elastigedd toddiant polymer yn wreiddiol o gyhoeddiad gan Edwards ym 1967 [cyhoeddiadau 3]. Estynnwyd yr ymchwil gan de Gennes ym 1971 a chafodd ei ffurfioli wedyn trwy gyfres o gyhoeddiadau gan Edwards a Masao Doi yn niwedd y 1970au.[1]

Gweithgareddau gweinyddol a chydnabyddiaeth broffesiynolGolygu

Bu'n Gadeirydd y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth rhwng 1973-1977 a rhwng 1984-1995 roedd yn Athro Ffiseg Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n aelod o Fwrdd Noddwyr The Bulletin of the Atomic Scientists a Llywydd Cymdeithas Caergrawnt ar gyfer Cymhwysiad Ymchwil.

Dyrchafwyd Edwards yn farchog ym 1975. Ymysg y gwobrau a gyflwynwyd iddo mae Medal Davy (1984) Medal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol (2001), medal Boltzmann Undeb Rhyngwladol Ffiseg Pur a Chymhwysol (1995),[3] a Medal Dirac y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol (2005). Roedd hefyd yn Gymrawd Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac roedd ganddo radd er anrhydedd (Doethur y Gwyddorau) o Brifysgol Caerfaddon (1978).

Bywyd personolGolygu

Yn 1953 priododd Syr Sam gyda Merriell E.M. Bland, bu iddynt dair merch a mab. I ymlacio roedd yn hoffi garddio a cherddoriaeth siambr. Bu farw Syr Samuel yng Nghaergrawnt ar 7 Mai 2015.[4]

CyhoeddiadauGolygu

CyfeiriadauGolygu

Darllen PellachGolygu