Ci sbits sy'n tarddu o Rwsia yw'r Samoied.[1][2] Cafodd ei ddatblygu yn Siberia gan y Samoiediaid fel ci sled, ci cymar a chi sodli carw Llychlyn. Mae'n gi cydnerth sy'n debyg i hysgi, gyda chlustiau i fyny, llygaid hirgrwn tywyll, a'i geg yn "wên". Mae ganddo gôt drom, hir o liw gwyn, hufen, brown golau ("bisged"), neu'n wyn a bisged. Mae ganddo daldra o 48 i 61 cm (19 i 24 modfedd) ac yn pwyso 23 i 29.5 kg (50 i 65 o bwysau). Dywed bod y Samoied yn gi addfwyn, ffyddlon, a deallus sy'n gwarchotgi a chi cymar da.[3]

Samoied
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
MathDouble Coat Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1208 [Samoyed[e]].
  2. (Saesneg) Samoyed. Fédération Cynologique Internationale. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
  3. (Saesneg) Samoyed (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2014.