Sandro Botticelli
Arlunydd Eidalaidd oedd Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi, sy'n fwy adnabyddus fel Sandro Botticelli (1 Mawrth 1445 – 17 Mai 1510).
Sandro Botticelli | |
---|---|
![]() Hunanbortread honedig o Sandro Botticelli, o'i lun Addoliad y Doethion. | |
Ganwyd |
Alessandro di Mariano di Vanni Filipepi ![]() 1 Mawrth 1445, 1445 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw |
17 Mai 1510, 16 Mai 1510 ![]() Fflorens ![]() |
Galwedigaeth |
arlunydd, arlunydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Genedigaeth Gwener, Addoliad y Doethion, Primavera, Fortitude ![]() |
Arddull |
portread, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol ![]() |
Mudiad |
y Dadeni Cynnar, Florentine School ![]() |
Yn enedigol o Fflorens, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am fywyd Botticelli. Dywed Giorgio Vasari iddo hyfforddi fel gôf aur yn wreiddiol. Erbyn 1462 mae'n debyg ei fod yn brentis i Fra Filippo Lippi. Yn 1470 roedd ganddo ei weithdy ei hun. Dyddia ei Addoliad y Doethion cyntaf o tua 1475–1476. Tua 1478, cynhyrchodd ddau o'i gampweithiau, La Primavera neu Alegori'r Gwanwyn (tua 1478) a Genedigaeth Gwener (tua 1485). Erbyn 1499, roedd y ddau yn fila Lorenzo di Pierfrancesco de' Medici yn Castello.
Yn 1481, galwodd Pab Sixtus IV Botticelli ac arlunwyr eraill o Fflorens ac Umbria i arlunio ffresco ar furiau y Cappella Sistina yn y Fatican. Wedi dychwelyd i Fflorens, ysgrifennodd draethawd ar ran o waith Dante gyda darluniau ganddo ef ei hun, a'i argraffu.
Yn nes ymlaen yn ei fywyd, roedd Botticelli yn un o ddilynwyr Savonarola. Dywed Vasari iddo roi'r gorau i arlunio am gyfnod dan ddylanwad Savonarola, a mynd i drafferthion ariannol.