Mae Sant-Briag (Ffrangeg: Saint-Briac-sur-Mer) yn gymuned yn department Il-ha-Gwilen (Ffrangeg: d'Ille-et-Vilaine), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Pleurtuit, Saint-Lunaire, Lanseeg, Plouvalae ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,208 (1 Ionawr 2021).

Sant-Briag
Mathcymuned, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,208 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethVincent Denby Wilkes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd8.06 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr83 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPleurestud, Sant-Luner, Lanseeg, Plouvalae, Beaussais-sur-Mer Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.6203°N 2.1339°W Edit this on Wikidata
Cod post35800 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Saint-Briac-sur-Mer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethVincent Denby Wilkes Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth golygu

 

Hinsawdd golygu

Mae St Briac yn gorwedd ar Llif y Gwlff sy'n golygu ei fod yn mwynhau hinsawdd gynnes, nifer o raddau yn gynhesach nag ardaloedd cyfagos. Mae gan y pentref enghreifftiau gwych o balmwydd a phlanhigion trofannol, ar hyd y strydoedd, gan wneud teithiau cerdded pleserus iawn.

Hamdden golygu

Mae gan Saint Briac dau wersyll, saith o draethau, pedwar cwt tennis, maes pêl-droed, a chlwb hwylio, cwrs golff mini ac un un 18 twll a nifer o fwytai.

Gwleidyddiaeth golygu

Bu Brice Lalonde, cyn ymgeisydd Y Balid Werdd ar gyfer Arlywyddiaeth Ffrainc, yn faer y pentref rhwng 1989-2008. Mae Lalonde yn gefnder i'r seneddwr Americanaidd John Kerry.

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: