Sant Antoni de Portmany

Mae Sant Antoni de Portmany yn dref ar arfordir Gogledd-orllewinol Eivissa (Ibiza) un o’r Ynysoedd Balearig yng Nghatalwnia. Enwau Sbaeneg y dref yw "San Antonio Abad" a "San Antonio".[1] Mae’r dref yr ail-fwyaf ar yr ynys.

Sant Antoni de Portmany
Delwedd:San Antonio.jpg, Sant-Antoni-Bahia.JPG
Mathtref weinyddol ddinesig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSant Antoni de Portmany Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd126.8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr14 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.9725°N 1.3058°E Edit this on Wikidata
Map
Yr orsaf bysiau

Yr Wy golygu

Mae’r Wy yn gerflun o’r 1990au cynnar i ddathlu’r posibiliad bod Christopher Columbus wedi cael ei eni’n lleol. Ar ganol yr wy, mae model o’i gwch, y ‘Santa Maria’.[2]

Yr wy

Passeig de ses Fonts golygu

Mae’r Passeig de ses Fonts yn rhan o bromenâd y dref, datblygwyd yn 1990. Mae palmwydd a ffowntenni, sy wedi goleuo gyda’r nos, ac mae nifer o dai bwyta.[3]

Passeig de ses Fonts

Y ‘West End’ golygu

Mae’r 'West End' yn ardal fach o’r dref o gwmpas Carrer de Santa Agnès lle mae taverndai lle clywir cerddoriaeth. Mae’r ardal yn denu nifer fawr o dwristiaid ifanc gyda’r nos yn ystod yr haf.[4]

Y West End, Gorffennaf 2006

Hanes golygu

Ers 2,000 mlynedd, roedd Sant Antoni yn bentref pysgota ar safle porthladd Rhufeinig Portus Magnus, ond tyfodd yn y 1950au hwyr, gyda datblygiad o westai a thafarndai, yn ymateb i ymgyrch dros dwristiaeth yn Sbaen. Ehangodd y dref o gwmpas y bae hyd at Cala de Bou.

Sunset Strip golygu

Hyd arfordir gorllewinol y bae yw Sunset Strip, lle mae ymwelwyr i’r ynys yn cyfarfod yn nhafarndai y bae, megis Cafe del Mar, Café Mambo, Mint Lounge Bar, Café Savannah a Fresh Ibiza, sy’n wynebu’r machlud haul.

Fferiau a chychod golygu

Mae gan y dref harbwr mawr, ac mae fferiau yn mynd at draethau y gogledd a gorllewin yr ynys, megis Cala Bassa, Cala Compte, Pinet Playa, Es Puet, Cala Grasió, Cala Salada a Port des Torrents rhwng Mai a Medi. Mae hefyd fferi wythnosol i Formentera.

Clybiau nos golygu

Mae nifer o glybiau nos, gan gynnwys ‘Es Paradis’ ac ‘Eden’.

Cyfeiriadau golygu

  1. Erthygl gan Tess Reid yn y Guardian
  2. Gwefan latorreibiza.com
  3. "Gwefan tropter.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-05. Cyrchwyd 2022-07-04.
  4. Gwefan cityseeker.com

Dolenni allanol golygu