Model a chyflwynwraig yw Sara Manchipp (ganwyd tua 1990) Mae hi'n enedigol o Faglan. Aeth i Ysgol Gyfun Ystalyfera ac yna astudiodd lefel A mewn Seicoleg; Cyfathrebu a Diwylliant yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot.[1] Graddiodd o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Seicoleg a Chwnsela a mae'n dychwelyd i astudio gradd ôl-raddedig.[2]

Enillodd gystadleuaeth Miss Cymru yn 2011 ac aeth ymlaen i gystadleuaeth Miss Byd 2013 yn Llundain, lle cyrhaeddodd rhai o'r rowndiau terfynol ond aeth allan cyn y rownd gyn-derfynol.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Beauty and Brains. Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
  2. (Saesneg) Event Rater Q&A with Sara Manchipp (10 Gorffennaf 2015). Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.
  3.  The Miss Wales Hall of Fame (Hydref 2014). Adalwyd ar 23 Chwefror 2016.

Dolennau allanol

golygu