Sarah Jacob

yr ymprydferch

Merch ifanc o Sir Gaerfyrddin oedd Sarah Jacob (12 Mai 185717 Rhagfyr 1869), a ddaeth yn adnabyddus yng ngwledydd Prydain fel The Welsh Fasting Girl. Honnai ei rhieni, Evan a Hannah Jacob, iddi fyw am fwy na dwy flynedd heb orfod bwyta nac yfed gan ennyn sylw chwilfrydig y wasg boblogaidd a meddygon. Credir iddi ddioddef o anorexia nervosa ac i'w chyflwr gael ei waethygu oherwydd twyll ei rhieni a bu farw o ganlyniad i hynny.

Sarah Jacob
Stori bapur newydd am Sara
Ganwyd12 Mai 1857 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-ar-Arth Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 1869 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawen Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaSarah Arall Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ganed Sarah ar fferm Letherneuadd Uchaf ger Pencader, Sir Gaerfyrddin yn 1857 ac yno y treuliodd ei hoes fer. Yn ei blynyddoedd olaf fe'i cyfyngid i'r gwely oherwydd ei chyflwr, wedi ei gwisgo fel priodasferch. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang iddi yn y wasg a galwai nifer o feddygon i'w harchwilio. Annogai eu rhieni i ymwelwyr roi rhoddion arian iddi. Yn y diwedd cafodd ofal meddygon ond bu farw yn 1869. Roedd hi'n 12 oed. Archwilwyd ei chorff mewn post mortem a chael fymryn o fwyd yn ei stumog.

Bu achos llys yn dilyn marwolaeth Sarah a thraddodwyd ei rhieni i garchar a llafur caled am fod yn euog o ddynladdiad trwy esgeuluster bwriadol er mwyn elwa'n ariannol o gyflwr eu merch.

Ffuglen golygu

Ysgrifennodd Gwenlyn Parry a Christine Furnival ddrama am Sarah. Mae'r achos yn gefndir i'r nofel Sarah Arall (1982) gan Aled Islwyn hefyd.

Llyfryddiaeth golygu

  • T. Llew Jones, "Yr Eneth Gadd ei Gwrthod", yn Gwaed ar eu Dwylo (Gwasg Gomer, 1966), tt. 86–128
  • John Cule, Wreath on the Crown (1967)

Ffynhonnell golygu

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, adargraffiad 1992)