Sarah Jacob
Merch ifanc o Sir Gaerfyrddin oedd Sarah Jacob (12 Mai 1857 – 17 Rhagfyr 1869), a ddaeth yn adnabyddus yng ngwledydd Prydain fel The Welsh Fasting Girl. Honnai ei rhieni, Evan a Hannah Jacob, iddi fyw am fwy na dwy flynedd heb orfod bwyta nac yfed gan ennyn sylw chwilfrydig y wasg boblogaidd a meddygon. Credir iddi ddioddef o anorexia nervosa ac i'w chyflwr gael ei waethygu oherwydd twyll ei rhieni a bu farw o ganlyniad i hynny.
Sarah Jacob | |
---|---|
Stori bapur newydd am Sara | |
Ganwyd | 12 Mai 1857 Llanfihangel-ar-Arth |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1869 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awen |
Cysylltir gyda | Sarah Arall |
Hanes
golyguGaned Sarah ar fferm Letherneuadd Uchaf ger Pencader, Sir Gaerfyrddin yn 1857 ac yno y treuliodd ei hoes fer. Yn ei blynyddoedd olaf fe'i cyfyngid i'r gwely oherwydd ei chyflwr, wedi ei gwisgo fel priodasferch. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang iddi yn y wasg a galwai nifer o feddygon i'w harchwilio. Annogai eu rhieni i ymwelwyr roi rhoddion arian iddi. Yn y diwedd cafodd ofal meddygon ond bu farw yn 1869. Roedd hi'n 12 oed. Archwilwyd ei chorff mewn post mortem a chael fymryn o fwyd yn ei stumog.
Bu achos llys yn dilyn marwolaeth Sarah a thraddodwyd ei rhieni i garchar a llafur caled am fod yn euog o ddynladdiad trwy esgeuluster bwriadol er mwyn elwa'n ariannol o gyflwr eu merch.
Ffuglen
golyguYsgrifennodd Gwenlyn Parry a Christine Furnival ddrama am Sarah. Mae'r achos yn gefndir i'r nofel Sarah Arall (1982) gan Aled Islwyn hefyd.
Llyfryddiaeth
golygu- T. Llew Jones, "Yr Eneth Gadd ei Gwrthod", yn Gwaed ar eu Dwylo (Gwasg Gomer, 1966), tt. 86–128
- John Cule, Wreath on the Crown (1967)
Ffynhonnell
golygu- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, adargraffiad 1992)