Sarah Siddons

actores (1755-1831)

Roedd Sarah Siddons (5 Gorffennaf 17558 Mehefin 1831; nee Kemble) yn actores o Gymru, a gofir yn bennaf am ei phortread o 'Lady Macbeth'. Fe'i hystyrir gan lawer fel actores drasig fwya'r 18g. Ganwyd Sarah yn Aberhonddu, yn ferch i Roger Kemble a oedd yn rheolwr cwmni o actorion, sef y Warwickshire Company of Comedians. Roedd ei chwaer Ann Hatton yn nofelydd poblogaidd.

Sarah Siddons
GanwydSarah Kemble Edit this on Wikidata
5 Gorffennaf 1755 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 1831 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan Edit this on Wikidata
TadRoger Kemble Edit this on Wikidata
MamSarah Ward Edit this on Wikidata
PriodWilliam Siddons Edit this on Wikidata
PlantHenry Siddons, Sarah Martha Siddons, Emma Siddons, Frances Emilia Siddons, George John Siddons, Cecilia Siddons, Eliza Ann Siddons, Maria Siddons Edit this on Wikidata
Portread o Mrs Siddons fel Constance yn 'King John' (4673471)

Yr hyn sy'n weddill golygu

Yn Aberhonddu ceir tafarn o'r enw "Sarah Siddons" ac roedd injan a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan-Vickers a oedd yn rhedeg ar rwydwaith Trafnidiaeth Llundain yn dwyn ei henw, ond a roddwyd yr injan i orffwys yn 1961. Mae 'Cymdeithas Sarah Siddons' yn parhau i gyflwyno gwobr y Sarah Siddons Award yn Chicago'n flynyddol i actores amlwg.

 
Cerflun o Sarah gan Leon-Joseph Chavalliaud, ym mynwent Saint Mary's, Paddington Green.

Ar 12 Ebrill 2010, darlledodd BBC Radio 4 y cyntaf o bum rhaglen am ei pherthynas hir gyda'r arlunydd Thomas Lawrence. Sgwennwyd y sgript gan David Pownall.

Cyfeiriadau golygu