Save the Cinema
Ffilm ddrama Saesneg 2022 yw Save the Cinema, a ysgrifennwyd gan Piers Ashworth ac a gyfarwyddwyd gan Sara Sugarman. Mae'n seiliedig ar y stori wir gan Liz Evans, triniwr gwallt o Gaerfyrddin a mam y canwr Wynne Evans. Mae'r stori am sinema leol sydd dan fygythiad o gael ei chau. Sêr y ffilm yw Jonathan Pryce, Samantha Morton, Tom Felton ac Owen Teale.[1]
Digwyddodd y ffilmio ledled Sir Gaerfyrddin, Cymru.[2] Rhyddhawyd Save the Cinema yn y Deyrnas Unedig ar 14 Ionawr 2022.
Cymeriadau
golygu- Jonathan Pryce fel yr athro Mr. Morgan
- Samantha Morton fel Liz Evans
- Tom Felton fel Richard Goodridge, cynghorydd
- Adeel Akhtar fel Tom, y Maer
- Susan Wokoma fel Dolly, cynorthwy-ydd trin gwallt
- Erin Richards fel Susan, ysgrifennydd y Maer
- Owain Yeoman fel David Evans, gŵr Liz
- Rhod Gilbert fel Mr. Powell
- Dora Davis fel Carol
- Leanne Holder fel Galarwr
- Joe Hurst fel Huw Evans
- Thaer Al-Shayei fel Mr. Hopkins
- Fflyn Edwards fel Wynne Evans
- Harry Luke fel Mark Llewellyn Evans
- Reegan Davies fel Megan
- Huw Morgan fel Heddwas
- Matthew Lee
- Mitchell Zhangazha fel Judas
- Mathew Guerin fel Beili
- Keith Allen fel Superintendent Evans
- Melanie Walters fel Mrs. Pritchett
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dalton, Ben (22 Ionawr 2021). "Jonathan Pryce, Samantha Morton, Tom Felton to lead Sara Sugarman's 'Save The Cinema' (exclusive)". Screen Daily (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Ionawr 2021.
- ↑ "Hollywood's Jurassic Park premiere in Carmarthen set for movie". BBC News (yn Saesneg). 3 Chwefror 2021. Cyrchwyd 19 Chwefror 2021.