SaySomethinginWelsh
cwrs dysgu Cymraeg
Cwrs ar gyfer dysgu Cymraeg yw SaySomethinginWelsh.
Cyrsiau
golyguMae'r cwrs yn cynnwys podlediadau MP3, ac yn seiliedig ar athroniaeth HILT[1] (Hyfforddiant Ieithyddol Dwys Iawn). Mae'r cwmni bellach yn cynnig cyrsiau Sbaeneg, Manaweg, Lladin, Cernyweg, ac Iseldireg.[2]
Hanes
golyguLansiwyd SaySomethinginWelsh oddeutu 2008. Ymysg sylfaenwyr y cwmni mae Aran Jones,[3] Catrin Lliar Jones.[4] a Iestyn Dafydd.[3] Yn 2019, rhoddodd Aran Jones wers Cymraeg i'r cyflwynydd Jeremy Vine ar BBC Radio 2, gyda 6 miliwn o bobl yn gwrando.[5] Yn 2020, dechreuodd y cwmni, ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, gyflwyno gwersi am ddim ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Aran Jones (2015-01-29). "High Intensity Language Training – Speed of Production". SaySomethingin (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-20.
- ↑ "SaySomethingIn..." www.saysomethingin.com. Cyrchwyd 2020-10-20.
- ↑ 3.0 3.1 "About". SaySomethingin (yn Saesneg). 2013-07-02. Cyrchwyd 2020-10-20.
- ↑ "SaySomethingIn..." www.saysomethingin.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-27. Cyrchwyd 2020-10-20.
- ↑ Hughes, Marcus (2019-03-01). "Jeremy Vine had a Welsh lesson live on BBC Radio Two". WalesOnline. Cyrchwyd 2020-10-20.
- ↑ "Cynllun i helpu ffoaduriaid i gael gwersi Cymraeg am ddim". Golwg360. 2020-03-06. Cyrchwyd 2020-10-20.