Manaweg
Iaith Geltaidd gynhenid Ynys Manaw yw Manaweg (Manaweg: Gaelg/Gailck). Mae'n perthyn yn agos i ieithoedd Celtaidd Iwerddon a'r Alban - Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban - fel rhan o'r is-deulu ieithyddol Celteg Q neu Goedeleg (sydd gyda'r Frythoneg yn rhan o deulu mwy, sef Celteg Ynysig.
Manaweg | ||
---|---|---|
yn Ghaelg, yn Ghailck | ||
Siaredir yn | Ynys Manaw | |
Cyfanswm siaradwyr | Bu farw yn iaith gyntaf ers 1974; fe'i hadfywiwyd gyda rhyw gant o siaradwyr,[1][2] gan gynnwys nifer fechan o blant sydd bellach yn siaradwyr brodorol,[3] a 1,823 o bobl (2.2%) yn dweud bod rhyw ddealltwriaeth o'r iaith ganddynt hwy[4] (2011) | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Ynys Manaw | |
Rheoleiddir gan | Coonseil ny Gaelgey (Cyngor y Fanaweg) | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | gv | |
ISO 639-2 | glv | |
ISO 639-3 | glv | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Hanes
golyguCredir i'r Fanaweg gael ei chyflwyno i'r ynys gan ymsefydlwyr o Iwerddon yn y 4g neu'r 5ed O.C. Ymsefydlai llwythi eraill o Iwerddon mewn rhannau gorllewinol o Gymru a'r Alban yn yr un cyfnod. Mae milewniwm gyntaf ei bodolaeth yn dywyll. Does dim llenyddiaeth o'r cyfnod wedi goroesi a rhaid dibynnu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phersonol am ein gwybodaeth. Dim ond yn y 18g a'r 19eg y daw'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf i'r golwg (ac eithrio ambell arysgrifiad a chofnod byr) ar ffurf cyfieithiadau crefyddol, geiriaduron a gramdegau, yn ogystal â cherddi llafar a baledi â'i gwreiddiau yn yr 16g efallai.
Daeth y Fanaweg i ben fel mamiaith fyw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu farw siaradwr brodorol olaf y Fanaweg, Ned Maddrell, yn 1974, ond mae'r iaith wedi profi ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Fe'i siaredir gan rai cannoedd o Fanawiaid - rhai sydd wedi dysgu'r iaith o ddiddordeb, a rhai o'u plant yn ogystal. Agorwyd yr ysgol Fanaweg gyntaf, y Bunscoill Ghaelgagh, yn 2001 a ceir darpariaeth meithrin dan nawdd sefydliad Mooinjer veggey. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu. n ôl yr adferwr iaith, Brian Stowell, dechreuodd yr adfywiad mewn Manaweg wedi i'r olaf o'r siaadwyr cynhenid farw yng nghanol yr 20g gan bod ganddyn nhw agwedd mor negyddol at yr iaith.[5]
Treigladau
golyguFel pob iaith Celtaidd, ceir treigladau.[6] Mae ganddi ddau dreiglad: boggaghys (math o dreiglad meddal) a stronnaghys (math o dreiglad trwynol). Mae dau fath o boggaghys i'w gweld mewn sefyllfoedd gwahanol. Dydyn nhw ddim yn gweithio fel treigladau'r Gymraeg.
Dyma dreigladau Manaweg:
Treigladau Manaweg[7] Llythyren wreiddiol Boggaghys Stronnaghys Math cyntaf Ail fath p /p/ ph /f/ ph /f/ b /b/ t, th /t/ h /h/ t, th /t/ d /d/ çh /tʃ/ h /h/ çh /tʃ/ j /dʒ/ c, k keyl /kʲ/ ch /ç/ ch /ç/ g /gʲ/ c, k lheean /k/ ch /x/ ch /x/ g /g/ b /b/ v /v/, /w/ v /v/, /w/ m /m/ bw /bw/ w /w/ w /w/ mw /mw/ d, dh /d/ gh /ɣ/ d /d/ n/n/ j /dʒ/ y /j/ j /dʒ/ n'y /nj/ g keyl /gʲ/ y, gh /j/ y, gh /j/ ng /ŋʲ/ g lheean /g/ gh /ɣ/ gh /ɣ/ ng /ŋ/ f /f/ (dim) (dim) v /v/ s /s/ h /h/ t/t/ s /s/ str /st/ tr /t/ tr /t/ str /st/ sl /sl/ l /l/ cl /kl/ sl /sl/ sn /sl/ n, sn /n/, /sn/ n, sn /n/, /sn/ sn /sn/ sh /ʃ/ h /h/ ç /tʃ/ sh /ʃ/ m /m/ v /v/, /w/ v /v/, /w/ m /m/ mw /mw/ w /w/ w /w/ mw /mw/ qu /kw/ wh /ʍ/ wh /ʍ/ qu /kw/
Geirfa
golyguYmadroddau a geiriau
golyguManaweg Ymadrodd agosaf
Gwyddeleg
Ymadrodd agosaf
Gaeleg yr Alban
Ymadrodd agosaf
CymraegMoghrey mie Maidin mhaith Madainn mhath Bore da Fastyr mie Tráthnóna maith Feasgar math Prynhawn da Slane lhiat, Slane lhiu Slán leat, Slán libh Slàn leat, Slàn leibh Hwyl [iti, ichi] Gura mie ayd, Gura mie eu Go raibh maith agat, Go raibh maith agaibh Tapadh leat, Tapadh leibh Diolch [iti, ichi] baatey bád bàta cwch barroose bus bus bws blaa bláth blàth blodyn booa bó bò buwch cabbyl capall capall ceffyl cashtal caisleán, caiseal caisteal castell creg carraig carraig, creag carreg eeast, yeeast iasc iasg pysgod ellan oileán eilean ynys gleashtan gluaisteán, carr càr car kayt cat cat cathod moddey madra, madadh madadh ci shap siopa bùth siop thie tigh, teach taigh tŷ eean éan eun, ian aderyn jees beirt, dís dithis dau, dwy; pâr oik oifig oifis swydd ushtey uisce uisge dŵr
Rhifau
golyguManaweg Ymadrodd agosaf
Gwyddeleg
Ymadrodd agosaf
Gaeleg yr Alban
Ymadrodd agosaf
Cymraeg(unnane)
un / nane [n 1][n 2]aon (a haon) / amháin aon un daa / jees[n 3][n 4] dó, dhá / beirt / dís dà / dithis dau, dwy tree[n 5] trí trì tri, tair kiare[n 6] ceathair, ceithre ceithir pedwar, pedair queig cúig còig pump shey sé sia chwech shiaght seacht seachd saith hoght ocht (a hocht) ochd wyth nuy naoi naoi naw jeih deich deich deg nane jeig, un jeig[n 7] aon déag aon deug unarddeg, un deg un daa yeig[n 8][n 9] dó dhéag dà dheug deuddeg, un deg dau, un deg dwy tree as feed[n 10] fiche trí trì air fhichead tri ar hugain, dau ddeg tri nane-jeig as feed[n 11] triocha haon aon dheug air fhichead unarddeg ar hugain, tri deg un tree as daeed[n 12] daichead trí dà fhichead is a trì degain a thri, pedwar deg tri tree feed as tree[n 13] seasca trí trì fhichead is a trì trigain a thri, chwe deg tri kiare feed as tree[n 14] ochtó trí ceithir fhichead is a trì pedwar ugain a thri, wyth deg tri keead as daa-yeig as feed[n 15] céad triocha dó ceud dà dheug air fhichead cant a deuddeg ar hugain, cant tri deg dau
Nodau am rifau
golygu- ↑ Unnane sydd y ffurf lawn. Fel arfer, mae un i'w weld efo enwau, a mae un i'w weld ar ei ben ei hun neu efo rhagenwau.
- ↑ Mae treiglad boggaghys yr ail fath ar ôl un.
- ↑ Mae treiglad boggaghys yr math cyntaf ar ôl daa. Mae jeig yn treiglo i yeig hefyd.
- ↑ Dydy "daa" a "jees" ddim yn ffurfiau benwyaidd a gwrywaidd fel dau a dwy. Mae "daa" i'w weld efo enwau, a mae "jees" i'w weld ar ei ben ei hun neu efo rhagenwau. Er enghraifft, dywedwyd "nane, jees, tree, kiare, queig" am rifo, neu "honnick mee jees jeu" ("welais i ddau ohonyn"); ond "ta daa vac oc" (mae ganddynt dau fab).
- ↑ Does dim ffurfiau benywaidd / gwrywaidd.
- ↑ Does dim ffurfiau benywaidd / gwrywaidd.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng un a jeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys yr ail fath. Er enghraifft, un chayt jeig yn lle un deg un o gathod neu unarddeg cathod.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng daa a yeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys y math cyntaf. Er enghraifft, daa chayt yeig yn lle dwy gath ar ddeg neu deuddeg cath.
- ↑ Does dim ffurf *jees jeig.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng tree a feed.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng nane a jeig.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng tree a daeed.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng feed a tree.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng feed a tree.
- ↑ Mae'r enw i'w weld rhwng keead a as.
Mae ffurfiau lluosog i'w weld ar ôl llawer o rifau.
- Does dim ffurf lluosog ar ôl un neu daa
- Does dim ffurf lluosog ar ôl lluosrifau o 20+ (yn cynnwys 100, 1000 ac ati)
- Fel arfer, does dim ffurf lluosog ar ôl mesurau: e.e. arian ac amser.
Arddodiaid
golyguFel yn y Gymraeg, gellir rhedeg arddodiaid Manaweg yn ôl y person. Mae ganddynt ansoddeiriau meddianol hefyd. Dyma ffurfiau ec ‘gan’, a'r ansoddeiriau meddianol yn italaidd:
Ffurfiau ec Unigol Lluosog Person cyntaf aym
aymsain
ainynAil berson ayd
aydseu
euishTrydedd person Gwrywaidd echey
echeysynoc
ocsynBenywaidd eck
eckshoc
ocsyn
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- G. Broderick, A Handbook of Late Spoken Manx. 3 cyfrol. (Llundain, 1984-86)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anyone here speak Jersey?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-20. Cyrchwyd 2009-02-20.
- ↑ "Fockle ny ghaa: schoolchildren take charge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-04. Cyrchwyd 2011-04-13.
- ↑ Documentation for ISO 639 identifier: glv
- ↑ Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21 Ionawr 2013.
- ↑ "Irish and Manx gaelic speakers discuss the Manx Gaelic revival". Sianel Youtube An Ghaeilge. 29 Mai 2011.
- ↑ Broderick 1984–86, 1:7–21; 1993, 236–39; Thomson 1992, 132–35
- ↑ Brian Stowell (1998). Y Coorse Mooar, 2
Dolenni allanol
golygu- Newyddion ym Manaweg Archifwyd 2004-02-17 yn y Peiriant Wayback (clywedol)
- Eitem mewn Gwyddleg am yr iaith Fanaweg ar Sianel Youtube An Ghaeilge
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |