Sea Empress (llong)

Tancer olew oedd y Sea Empress. Aeth hi ar y creigiau ger Milffwrd ger Aberdaugleddau ar 15 Chwefror 1996 pan roedd hi'n cludo olew crai i Gymru. Achosodd hynny orlif o olew ar arfordir Sir Benfro, llawer ohono yn y Parc Cenedlaethol. Yn ystod y trychineb hwn rhyddhawyd tua 72,000 tunnell fetrig o olew crai ysgafn i'r môr a thua 250 tunnell fetrig o'r olew tanwydd trwm a ddefnyddiwyd i yrru peiriannau'r llong. Cafodd y tancer ei thynnu i mewn i'r ddyfrffordd a chollodd tua 230 tunnell fetrig arall o olew yn y fan.

Sea Empress
Enghraifft o'r canlynolcwch enfawr Edit this on Wikidata
Daeth i ben15 Chwefror 1996 Edit this on Wikidata
Map
Hyd274.3 metr Edit this on Wikidata
Tunelledd gros80,165 Edit this on Wikidata

Ymgyrchwyd i leihau effeithiau'r gorlif olew drwy ddefnyddio cemegau a chwistrellwyd ar yr olew o awyrennau, fel rhan o ymgyrch lanhau'r arfordir, rhaglen fonitro amgylcheddol a glanhau adar oeliog. Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am y gwaith clirio mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ac i ymchwilio i'r ddamwain a'r canlyniadau amgylcheddol.

Effaith amgylcheddol golygu

Doedd dim effaith mawr ar bysgod fel eogiaid neu frithyllod môr ac ychydig iawn o bysgod fu farw, ond bu llawer o folysgiaid dwygragennog fel cocos neu gyllyll môr yn ogystal â llygaid meheryn a sêr môr clustog farw o achos gwenwyn yr olew.

Cafodd tua 7,000 o adar oeliog (yn bennaf môr-hwyaid duon a oedd yn gaeafu yn yr ardal, heligogod a gweilch y penwaig) eu glanhau, ond bu llawer ohonyn nhw farw o'r olew.

Doedd dim effaith ar mamaliaid yr ardal, e.e. ar forloi.

Roedd effaith y gorlif olew yn eithaf ysgafn gan nad oedd tymor bridio'r adar a'r mamaliaid wedi dechrau. Bu farw llawer o anifeiliaid bychain oherwydd anghydbwysedd yn eco-systemau'r ardal am gyfnod, gan achosi rhywogaethau fel algâu gwyrdd i gynyddu.

Canlyniadau economegol golygu

Mae'r ardal Sir Benfro yn bwysig am ei phorthladd mawr sydd yn borthladd olew ers y 1950au, ond mae amaethyddiaeth, pysgota masnachol a thwristiaeth yn bwysig iawn i'r economi leol hefyd.

Doedd dim effaith ar amaethyddiaeth gan na ddaeth hydrocarbonau'r olew ar y tir mawr, ond roedd pryderon ar yr effaith ar dwristiaeth gan fod olew ar y traethau, a hwnnw'n ddrewllyd iawn. Fodd bynnag, glanhawyd yr arfordir cyn i'r tymor twristiaeth ddechrau (tua'r Pasg), ac felly nid oedd canlyniadau'r gorlif olew mor ddifrifol. Er nad oedd fawr o effaith ar bysgod yr ardal daeth llai o dwristiaid i bysgota.

Cyfeiriadau diwylliannol golygu

Cyfeiriodd y band Gorky's Zygotic Mynci at y trychineb yn eu cân "Sdim yr Adar yn Canu".

Dolenni allanol golygu