Sean Lock

sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Chertsey yn 1963

Digrifwr ac actor o Sais oedd Sean Lock (22 Ebrill 196316 Awst 2021)[1]. Dechreuodd ei yrfa fel comedïwr ar ei sefyll, ac enillodd Wobr Gomedi Prydain yn 2000 yn y categori Comedïwr Byw Gorau ac fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr Gomedi Perrier.[2]

Sean Lock
Ganwyd22 Ebrill 1963 Edit this on Wikidata
Chertsey Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 2021 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Muswell Hill Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of the Arts London
  • Brooklands College
  • St John the Baptist School, Woking Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddulldeadpan, digrifwch swreal Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobrau Comedi Prydain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://progressforamerica.org/sean-lock/ Edit this on Wikidata

Adnabyddir Lock yn dda ar gyfer ei ymddangosiadau ar deledu a radio. Roedd wedi ysgrifennu comedi i gomedïwyr eraill megis Bill Bailey, Lee Evans a Mark Lamarr ac yn 2007 fe'i bleidleisiwyd i'r 55ain safle ar restr Channel 4 y 100 Comedïwr ar ei Sefyll Gorau, yn 2010 daeth i'r 19eg safle ar yr un rhestr. Mae'n bosib ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel capten tîm ar y rhaglen gomedi banel 8 Out of 10 Cats o'i ddechrau yn 2005 hyd at 2015. Aeth ymlaen i fod yn gapten tîm rheolaidd ar y chwaer rhaglen 8 Out of 10 Cats Does Countdown.

DVDau Comedi ar ei sefyll golygu

Teitl Rhyddhawyd Nodiadau
Live 17 Tachwedd 2008 Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain
Lockipedia Live 22 Tachwedd 2010 Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain
Purple Van Man 18 Tachwedd 2013 Yn fyw yn yr HMV Hammersmith Apollo, Llundain
"Keep It Light - Live" 20 Tachwedd 2017 Yn fyw yn y Theater Royal, Margate

Cyfeiriadau golygu