Season's Greetings

gwaith celf gan Banksy

Paentiad gan Banksy yw Season's Greetings (Cyfarchion yr Ŵyl).[1]

Season's Greetings gan Banksy ym Mhort Talbot

Ar 18 Rhagfyr 2018, ymddangosodd darn o waith ar wal garej yn Stryd Caradog yn ardal Tai-bach, Port Talbot. Roedd y llun, mewn arddull nodweddiadol Banksy, yn dangos plentyn yn edrych i'r awyr ar blu eira yn disgyn. Rownd y gornel, roedd hi'n amlwg mai tân yn llosgi oedd yn creu y llwch gwyn. Roedd cryn ddyfalu os mai Banksy oedd yr artist a fe gadarnhawyd hynny y diwrnod canlynol gyda fideo wedi bostio ar ei gyfrif Instagram.[1] Mae'n bosib fod y darn celf wedi ei ysbrydoli gan y llwch o weithfeydd dur Port Talbot a ddisgynnodd yn yr ardal yng Ngorffennaf 2018. Roedd hyn yn dilyn cyfnod sych hir lle roedd y llwch yn aros yn yr awyr.

Mae'r actor Michael Sheen wedi talu costau gwarchod murlun.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Banksy yn hawlio cyfrifoldeb am furlun Port Talbot , Golwg360, 19 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.
  2. "Michael Sheen yn talu costau gwarchod murlun 'Banksy' Port Talbot". 24 Rhagfyr 2018. Unknown parameter |gwefan= ignored (help)