Michael Sheen

actor a aned yn 1969

Actor a gweithredwr gwleidyddol[1] o Gymro yw Michael Sheen (ganwyd 5 Chwefror 1969). Wedi hyfforddiant yn RADA gweithiodd ym myd theatr drwy'r 1990au. Daeth yn nodedig am bortreadu pobl go-iawn mewn dramau ffuglen ar lwyfan a'r sgrîn, gyda dynwarediau cynnil o bersonoliaethau fel Tony Blair, Kenneth Williams, David Frost, Brian Clough a Chris Tarrant.[2]

Michael Sheen
LlaisMichael Sheen voice.flac Edit this on Wikidata
GanwydMichael Christopher Sheen Edit this on Wikidata
5 Chwefror 1969 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles, Baglan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llais, actor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
PartnerKate Beckinsale, Sarah Silverman, Rachel McAdams Edit this on Wikidata
PlantLily Mo Sheen Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr James Joyce Edit this on Wikidata
Sheen yn cyflwyno Gwobrau Dewi Sant ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015
cofnod Rhagfyr 2018

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Michael Christopher Sheen yng Nghasnewydd, Gwent, yn fab i Irene a Meyrick Sheen. Roedd y ddau'n gweithio fel rheolwyr personel. Mae ei dad yn ymdebygu o ran ei olwg i Jack Nicholson ac yn gweithio fel actor look-alike rhan amser.[3][4] Mae gan Michael chwaer iau o'r enw Joanne. Pan oedd yn 5 oed symudodd y teulu i Wallasey,[5] Magwyd Sheen ym Mhort Talbot a mynychodd Ysgol Gyfun Glan Afan. Ymunodd â Theatr Ieuenctid Cymru yn 16 oed, cyn derbyn hyfforddiant yn y RADA.

Gyrfa golygu

Sefydlodd Sheen ei hun fel un o dalentau ifanc mwyaf addawol y sîn theatraidd, fel Mozart yn nrama Peter Shaffer Amadeus, ac ymddangosodd ar y llwyfan yn theatr yr Old Vic dan gyfarwyddwyd Peter Hall. Portreaodd y cyn brif-weinidog Tony Blair deirgwaith yn y ffilmiau a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears, The Deal a The Queen.

Derbyniodd OBE yn 2009 am wasanaethau i actio ond dychwelodd yr anrhydedd yn 2017. Yn Rhagfyr 2020, esboniodd fod hyn yn dilyn cyfnod pan gychwynnodd ddysgu am hanes Cymru wrth baratoi ar gyfer rhoi darlith goffa Raymond Williams. Penderfynodd roi'r OBE yn ôl fel ei fod yn gallu traddodi'r ddarlith a datgan ei farn am y teulu brenhinol heb ragrith.[6]

Yn 2024, cyfarwyddodd ac ymddangosodd Sheen yng nghyfres deledu'r BBC, The Way, a osodwyd yn ei dref enedigol, Port Talbot.[7]

Bywyd personol golygu

Mae gan Sheen ferch o'i gyn-gariad tymor-hir, yr actores Seisnig Kate Beckinsale sef Lily Mo Sheen, a anwyd ar 31 Ionawr 1999. Daeth y berthynas gyda Beckinsale i ben tra'n ffilmio Underworld, lle'r oedd y ddau'n serennu. Gadawodd Beckinsale ef am berthynas gyda cyfarwyddwr y ffilm, Len Wiseman, a priododd y ddau'n ddiweddarach. Ni ymddangosodd Sheen yn y ffilm ddilynol, ar wahân i ôl-fflachiau o'r ffilm gyntaf. Ar ôl byw yn yr Unol Daleithiau gyda Beckinsale am gyfnod, dychwelodd i wledydd Prydain pan ddaeth y berthynas i ben. Mae'r ddau wedi bod yn rhieni ar y cyd i'w merch.

Yng nghanol 2019 cyhoeddodd Sheen ei fod ef a'i bartner, Anna Lundberg,[8] yn disgwyl plentyn.[9] Prynodd Sheen dŷ yng Nghwmtwrch lle bu'n byw yn ystod 2019 a 2020.[10] Ganwyd Lyra, merch i'r cwpl ar 23 Medi 2019.[8][11]

Mae Sheen yn gefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe erioed.

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1995 Othello Lodovico
1996 Mary Reilly Bradshaw
1997 Wilde Robbie Ross
2002 Heartlands Colin
2002 The Four Feathers Trench
2003 Bright Young Things Miles
2003 Underworld Lucian
2003 Timeline Lord Oliver
2004 Laws of Attraction Thorne Jamison
2004 The Banker Y Bancwr
2005 Dead Long Enough Harry Jones
2005 Kingdom of Heaven Offeiriad
2006 Underworld: Evolution Lucian
2006 The Queen Tony Blair Nomineiddwyd - Actor Cefnogol Gorau BAFTA
2006 HG Wells: War with the World H. G. Wells Ffilm teledu
2006 Blood Diamond Simmons
2007 Music Within Art Honeyman
2008 Frost/Nixon David Frost disgwyl rhyddhad
2009 Underworld: Rise of the Lycans Lucian ffilmio
The Damned United Brian Clough '
2011 Midnight in Paris Paul
2015 Far from the Madding Crowd William Boldwood
2016 Passengers Arthur

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1993 Gallowglass Joe
1998 Lost in France Owen
2003 The Deal Tony Blair
2004 Dirty Filthy Love Mark Furness Nomineiddwyd - Actor Gorau BAFTA
2005 The League of Gentlemen's Apocalypse Jeremy Dyson
2006 Kenneth Williams: Fantabulosa! Kenneth Williams
2006 HG Wells: War with the World H. G. Wells
2006 Ancient Rome /The Battle for Rome Nero Cyfres deledu 6 rhan
2010 The Special Relationship Tony Blair
2013 Masters of Sex Bill Masters

Cyfeiriadau golygu

  1. "Actor Michael Sheen to focus more on political activism". Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  2. Marshall, Kingsley (16 Chwefror 2011). "Why Great Lives Make Great Movies". Little White Lies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2013. Cyrchwyd 5 Mawrth 2013.
  3. [1][dolen marw]
  4. BBC News - Sheen's father ill after car row
  5. "Michael Sheen on Twitter: "@IAmTheBaMan I lived in Wallasey for 3 years when I was a kid. Went to St.Georges primary."". Twitter. 28 Awst 2015. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
  6. Michael Sheen reveals he gave back OBE as he didn't want to be branded a 'hypocrite' , WalesOnline, 29 Rhagfyr 2020.
  7. Golbart, Max (16 Chwefror 2023). "James Graham, Michael Sheen & Adam Curtis Combine On Dystopian Drama 'The Way' For The BBC". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
  8. 8.0 8.1 "Michael Sheen and Anna Lundberg welcome their baby". BBC News. 27 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2019. Cyrchwyd 18 Mehefin 2020.
  9. Sheen, Michael [@michaelsheen] (17 Gorffennaf 2019). "Very happy to let everyone know that my partner Anna and I are expecting a little angel of our own" (Trydariad). Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2019 – drwy Twitter.
  10. Council names its gritting fleet after local celebrities including Michael Sheen , South Wales Guardian, 28 Rhagfyr 2020.
  11. Sheen, Michael [@michaelsheen] (30 Medi 2019). "Happy to say that at 8:41 am on Monday Medi 23rd our beautiful daughter Lyra was born" (Trydariad). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2019. Cyrchwyd 30 Medi 2019 – drwy Twitter.