Sefydliad Brenhinol Cernyw

Cymdeithas Addysgiedig Cernyw, sefydlwyd 1818 sydd nawr wedi esgor ar Amgueddfa Frenhinol Cernyw

Mae Sefydliad Brenhinol Cernyw (enw swyddogol: Royal Institute of Cornwall) yn gymdeithas Ddysgedig yn Truru, prifddinas Cernyw.

Sefydliad Brenhinol Cernyw
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas ddysgedig, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Chwefror 1818 Edit this on Wikidata
LleoliadTruru Edit this on Wikidata
Isgwmni/auCourtney Library Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sêl y Royal Institution of Cornwall

Fe'i sefydlwyd yn Truru ar 5 Chwefror 1818 fel y Cornwall Literary and Philosophical Institution.[1] Roedd y Sefydliad yn un o'r cynharaf o saith cymdeithas debyg a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr. Symudodd yr RIC i'w safle presennol yn River Street ym 1919 i'r adeilad a oedd yn Truro Savings Bank yn wreiddiol. Cymerodd ei enw presennol (Royal Institution of Cornwall) yn 1821 ar ôl derbyn nawdd brenhinol. Mae'n elusen gofrestredig o dan gyfraith Lloegr.[2]

Roedd gan Sefydliad Brenhinol Cernyw ddiben addysgol, gyda'r amcan 'i hyrwyddo addysg y cyhoedd trwy annog a hyrwyddo astudiaeth a gwybodaeth o lenyddiaeth, y gwyddorau naturiol, archaeoleg, hanes, ethnoleg, daeareg a'r celfyddydau cain a chymhwysol, gyda cyfeiriad arbennig at Gernyw'.[3]

Sefydlu Amgueddfa Frenhinol Cernyw

golygu

Mae Sefydliad Brenhinol Cernyw yn berchen ar ac yn rheoli Amgueddfa Frenhinol Cernyw, sydd ag arddangosfa barhaol ar hanes Cernyw o'r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw, yn ogystal â hanes naturiol Cernyw gan gynnwys casgliad o fwynau Cernywaidd o bwysigrwydd rhyngwladol, a casgliad rhagorol o serameg a chelfyddyd gain.

Mae adeilad yr amgueddfa hefyd yn gartref i Lyfrgell Courtney y Sefydliad, sy'n dal c. 40,000 o gyfrolau printiedig, 35,000 o lawysgrifau a dogfennau, papurau newydd o 1737, mapiau printiedig, cyfnodolion, printiau ac effemera. Mae'n arbenigo mewn hanes teuluol a hanes lleol. Mae gwasanaeth llungopïo wedi'i staffio gydag uchafswm archeb o 10 tudalen, mae aelodau'n talu tâl gostyngol am allbrintiau o ficrofiche a llungopïo.

Mae’r llyfrgell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am –1 pm a 2pm–5pm, ar ddydd Sadwrn 10am–1pm ac ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Banc Statudol. Nid yw'r archifau ar gael ar ddydd Iau.[4]

Cyngres Geltaidd

golygu

Yn 1950 cynhaliwyd cyfarfod y Gyngres Geltaidd yn adeilad y Sefydliad. Yn y gynhadledd yma yn sgil y trafodaethau Pan-geltaidd gyda chynrychiolwyr o'r gwahanol wledydd Celtaidd, y symbylwyd i sefydlu Mebyon Kernow, yn 1951. Sefydlwyd MK yn wreiddiol fel grŵp pwyso dros hawliau Cernywaidd ac yna ddaeth yn blaid wleidyddol genedlaethol Cernyw.[5][6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Title Page". Journal of the Royal Institution of Cornwall 2. 1867. https://archive.org/stream/journalofroyalin2186667roya#page/n237/mode/2up. Adalwyd 4 November 2012.
  2. "EW charity 1150749 The Royal Institution of Cornwall". Comisiwn Elusennau DU. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.[dolen farw]
  3. "Our Transformation". Gwefan Amgueddfa Frenhinol Cernyw. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.
  4. Courtney Library Cornish History Research Centre leaflet
  5. Deacon, Cole & Tregidga 2003, t. 29
  6. Williams 2014, t. 12

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato