Pan-geltiaeth
Mudiad a ffordd o feddwl o blaid annog cyfnewid diwylliannol a gwleidyddol rhwng y gwledydd Celtaidd yw pan-geltiaeth[1] neu oll-geltiaeth[2]. O ddiwedd y 18fed ganrif, fe ddatblygodd ochr yn ochr â rhamantiaeth a'r Dadeni Celtaidd.
Enghraifft o'r canlynol | pan-nationalism |
---|
Er nad oedd un "genedl" geltaidd yn yr henfyd, erbyn heddiw mae Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion i'r Celtiaid.
Enghreifftiau cyfredol
golyguCeir enghreifftiau cyfredol o feddylfryd a gweithrediaeth Pan-Geltiaeth ym maes diwylliant ac iaith:
- Carn - cylchgrawn yr Undeb Celtaidd
- Gŵyl Rhyng-Geltaidd An Oriant - gŵyl cerddoriaeth a dawns gyda chyfranwyr o'r Gwledydd Celtaidd (ac, am ryw reswm, Galisia ac Asturias)
- Gŵyl Ban Geltaidd - gŵyl flynyddol a gynhelir fel rheol yn nhref Killarney. Mae enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
- Y Gyngres Geltaidd - sefydlwyd yn 1902; mudiad academaidd a diwylliannol
- Undeb Celtaidd - (Celtic League) sefydlwyd yn 1961, mudiad gwleidyddol a diwylliannol
- Cymdeithas Cymru-Llydaw - mudiad llawr gwlad i hybu dealltwriaeth a pherthynas rhwng Cymru a Llydaw[3]
- Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Cyngor Llydaw [4][5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y Traethodydd (1900-2007) | Cyf. XCVIII (XII) (426-429) | 1943 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-09-14.
Ffrwyth Pan-Geltiaeth yr Arglwyddes Llanofer, ymhlith pethau eraill, yw'r syniad cyfeiliornus hwn, meddir yma.
- ↑ "CARTREFOL.|1904-09-14|Baner ac Amserau Cymru - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-09-14.
Dan ysbrydiaeth Oll-Geltiaeth fe'n temtir i ofyn ai nid 'Porthlafan' ydyw Porthleven?'
- ↑ "Blog Cymdeithas Cymru-Llydaw". Cymdeithas Cymru-Llydaw. Cyrchwyd 15 Medi 2022.
- ↑ "Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru". Llywodraeth Cymru. 15 Awst 2021.
- ↑ "Cryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Llydaw, Cydweithio ar bolisi iaith". Golwg360. 2014.
- ↑ "Datganiad Ysgrifenedig - Ymweliad Y Prif Weinidog â Llydaw 10 – 12 Ionawr 2018". Llywodraeth Cymru. 18 Ionawr 2018.