Truru

dinas yng Nghernyw

Prifddinas, plwyf sifil a chanolfan weinyddol Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Truro[1] (Cernyweg: Truru[2] neu Tryverow). Truro yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei lleoli fymryn yn llai na 232 filltir i'r de-orllewin o Lundain (Charing Cross).

Truru
Mathdinas, tref sirol Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,555 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBoppard, Montroulez Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Baner Cernyw Cernyw
Arwynebedd6.21 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hyldreth, Afon Alen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.26°N 5.051°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04013097 Edit this on Wikidata
Cod OSSW825448 Edit this on Wikidata
Cod postTR1, TR2, TR3, TR4 Edit this on Wikidata
Map
Eglwys Gadeiriol Truru

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 18,766.[3]

Mae'r ddinas yn enwog am ei heglwys gadeiriol, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1879, ac a gwblhawyd ym 1910. Hefyd, mae hi'n lleoliad i Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Royal Cornwall Museum), Llysoedd Cyfiawnder Cernyw a neuadd sir newydd Cyngor Sir Cernyw. Yn y ddinas mae canolfan galwadau band eang Grŵp BT.

Mae'r gwedillion yn Carvossa yn dangos bod Truru yn gymuned ers Oes yr Haearn. Roedd castell Normanaidd ar un o'r bryniau lle mae adeilad y Llysoedd Cyfiawnder heddiw.

Cododd Truru i amlygrwydd fel tref farchnad a phorth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed. Sut bynnag, mae rôl Truro wedi newid i fod yn brifddinas ddiwylliannol a masnachol i Gernyw gyda dirywiad y diwydiannau pysgota a mwyngloddio tun neu alcam. Mae adeiladau presennol Truro yn dyddio yn bennaf i'r oes Sioraidd neu wedyn, canlyniad ei rôl fel tref stannary pan oedd y diwydiant mwyngloddio yn ei anterth yng ngorllewin Cernyw.

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir Truru yng nghanol Cernyw ar gydlifiad afonydd Kenwyn ac Allen. Credir taw 'tair afon' yw ystyr enw Truru, enw sydd yn cyfeirio at Kenwyn, Allen a nant Glasteinan. Mae Truru wedi dioddef difrod gan lifogydd yn y gorffennol, yn enwedig ym 1988, pryd gwelwyd dau 100-mlynedd dilyw. Cyfododd y problemau hyn oherwydd i lawer o law chwyddo'r afonydd a llanw gwanwyn yn afon Fal. Yn fwy diweddar, cafodd amddiffynfeydd eu hadeiladu, gan gynnwys cronfa frys a gwahanfur llanw, i atal problemau yn y dyfodol.

Addysg

golygu

Sefydliadau addysgol sydd yn Truru:
Ysgol Truro — ysgol fonedd a sefydlwyd ym 1880.
Ysgol Gyfun Truro — ysgol fonedd ar gyfer merched, tair i ddeunaw oed.
Ysgol Penair — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sydd rhwng un ar ddeg oed ac un ar bymtheg oed.
Ysgol Richard Lander — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sydd rhwng un ar ddeg oed ac un ar bymtheg oed.
Coleg Truro — coleg addysg bellach ac addysg uwch a agorwyd ym 1993.

Rheilffyrdd

golygu

Agorwyd terfynfa yn Highertown y 5 Awst 1852 gan Reilffordd Gorllewin Gernyw, lle rhedai trenau i Redruth a Penzance. Estynnwyd y lein i lawr i'r afon yn Newham 16 Ebrill 1855. Daeth Rheilffyrdd Cernyw â lein o Plymouth i orsaf newydd y dref yn Carvedras y 4 Mai 1859, yn croesi uwchben y strydoedd ar ddwy draphont: pont Truro (tros ganol y dref) a phont Carvedras. Wedyn, dargyfeiriodd Rheilffordd Gorllewin Cernyw y rhan fwyaf o'u trenau i deithwyr i'r orsaf newydd, gan adael Newham yn bennaf fel gorsaf lwyth nes ei chau ar 6 Tachwedd 1971. Llwybr beic yw'r ffordd o Highertown i Newham heddiw, yn dilyn ffordd trwy gefn gwlad o gwmpas ochr ddwyreiniol y ddinas. Ehangodd Rheilffyrdd Cernyw y lein i Falmouth ar 24 Awst 1863.

Sefydliadau

golygu

Lleolir Sefydliad Brenhinol Cernyw fel rhan o Amgueddfa Cernyw yn y ddinas.

Gefeilldrefi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 19 Mawrth 2021
  2. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 7 Mehefin 2019
  3. City Population; adalwyd 19 Mawrth 2021

Dolenni allanol

golygu