Sefydliad Celf Courtauld

prifysgol yn Llundain

Prifysgol ac oriel gelf yn Llundain yw Sefydliad Celf Courtauld (Saesneg: Courtauld Institute of Art), a sefydlwyd ym 1932. Mae'n rhan o Brifysgol Llundain. Mae'n arbenigo mewn astudio hanes a chadwraeth celf; hon oedd y brifysgol gyntaf yng ngwledydd Prydain i gynnig hanes celf fel pwnc. Fe'i lleolir yn Somerset House, adeilad rhestredig Gradd I ar y Strand yn Ninas Westminster.

Sefydliad Celf Courtauld
Mathprifysgol gyhoeddus Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain
Sefydlwyd
  • 1932
  • 1 Tachwedd 2002 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Llundain Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cod postWC2R 0RN Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganSamuel Courtauld Edit this on Wikidata

Lleolwyd y sefydliad yn Home House, tŷ Sioraidd crand a gynlluniwyd gan Robert Adam, yn wreiddiol. Symudodd i Somerset House, a fu gynt yn gartref i Academi Frenhinol y Celfyddydau, ym 1989–90. Yn yr oriel gelf ceir casgliad pwysig o weithiau gan yr Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr a gasglwyd gan sylfaenydd y sefydliad, Samuel Courtauld (1876–1947)

Cyn-fyfyrwyr golygu

Dolenni allanol golygu