Selfoss

tref, Gwlad yr Iâ

Tref yn neheudir Gwlad yr Iâ yw Selfoss. Saif ar lannau'r afon Ölfusá. Mae'n ganolfan weinyddol bwrdeistref Árborg. Mae'r gylchffordd enwog, Ffordd Rhif 1, yr ynys (Islandeg: Hringvegur) yn rhedeg drwy'r dref ar ei ffodd rhwng Hveragerði a Hella. Mae'r dref yn ganolfan masnach a diwydiant bychan gyda phoblogaeth o 7,130 (1 Ionawr 2017), gan ei gwneud y ganolfan drefol fwyaf yn ne Gwlad yr Iâ.

Selfoss
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,624 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Savonlinna, Arendal, Bwrdeistref Kalmar, Aasiaat Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirÁrborg Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd2,000,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFlúðir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.932169°N 21.000228°W Edit this on Wikidata
Map
2014-09-13 16-02-23 Iceland - Selfoss

Mae'n ganolfan boblogaeth gyda thwristiaid gan ei bod yn agos i atyniadau megis y Þingvellir a llosgfynydd Hekla.

Daearyddiaeth golygu

Lleolir y dref tua 11 km i mewn i'r tir o arfordir de orllewin Gwlad yr Iâ a 50 km o'r brifddinas, Reykjavík. Yn ogystal â bod yn brif dref bwrdeisdref Árborg mae hefyd yn brif dref gweinyddol Rhanbarth Suðurland (Rhanbarth y De). Y trefi agosaf yw Eyrarbakki, Stokkseyri a Hveragerði.

Enw golygu

Er mai 'rhaeadr' yw ystyr foss does dim rhaeadr yn y dref.

Gorolwg golygu

 
yr hen bont tua 1918, Tryggvaskali

Setlwyd Selfoss gan Þórir Ásason rywbryd ar ôl y flwyddyn 1000; Fodd bynnag, mae sagas Gwlad yr Iā yn sôn i Ingolfur Arnarson fod yno yn ystod y gaeaf o 873-74 o dan fynydd Ingolfsfjall, sydd i'r gorllewin o afon Ölfusá.

Yn haf 1891, oherwydd lobïo Tryggvi Gunnarsson, aelod o'r Alþing, adeiladwyd y bont grog dros yr Ölfusá. Roedd hwn yn ddatblygiad strwythurol fawr yn hanes Gwlad yr Iâ. Gwnaeth y bont y dref yn ganolfan dref rhesymegol ar gyfer gwasanaethu y rhanbarth amaethyddol o'i chwmpas. Adeiladwyd y bont bresennol yn 1945 ar ôl i'r strwythur gwreiddiol ddymchwel.

Ym 1900 roedd y dref yn gartref i dim ond 40 o drigolion, ond erbyn 2011 roedd y boblogaeth wedi dringo i 6,500 ac yn 2017 yn 7,130.

Yn 1931 sefydlwyd y cwmni llaeth Mjólkurbú Flóamanna a'r siop gyffredinol Kaupfélag Árnesinga. Y ddau gwmni hyn oedd prif gyflogwyr yr ardal ers sawl degawd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd milwyr Prydain yn Selfoss i warchod y bont strategol.

Foss Gyfoes golygu

 
Сanol tref Selfoss

Heddiw, gyda system drafnidiaeth well, mae Selfoss yn elwa o'i agosrwydd i ardal Reykjavík Fawr a rhagwelir y bydd yn tyfu ymhellach yn y blynyddoedd nesaf wrth i fusnesau a thrigolion adleoli i'r dref oherwydd prisiau eiddo iss. Mae Foss yn gartref i un o'r colegau mwyaf yn y wlad; FSU Fjölbrautaskóli Suðurlands.

Bob dechrau mis Awst, mae'r dref yn cynnal gŵyl o'r enw "Sumar á Selfossi" ('Haf yn Selfoss'). Mae trigolion lleol yn addurno eu gerddi â rhubanau, wedi'u lliwio yn ôl y gymdogaeth, a chynhelir garddwest ar y glaswelltir cyhoeddus y tu ôl i'r llyfrgell ddinesig. Mae'r ffair yn cynnwys gwerthu nwyddau cartref o stondinau bychain, perfformiadau gan gerddorion, ac yn 2011, cynhaliwyd cystadleuaeth "Y Dyn Cryfa, a recordiwyd gan sianel Stöð 2. Yn y noson, Mae gwyliau'n parhau tân mawr ac arddangosfa tân gwyllt am ddim.

Bedd Bobby Fischer golygu

 
Bedd Bobby Fischer

Hunanoss yw'r dref lle claddwyd y cyn-Hyrwyddwr Byd Gwyddbwyll Bobby Fischer.[1]

Daeargryn 2008 golygu

Dioddefwyd daeargryn o gryfder 6.3 ger Selfoss ar brynhawn Iau 29 Mai 2008.[2][3] Ni niewidiwyd neb ddifrifol ond achoswyd difrod sylweddol i rai adeiladau a ffyrdd. Teimlwyd y daeargryn ar draws de'r ynys gan gynnwys Reykjavík a Maes Awyr Keflavík. Anafwyd 30 person ond ni laddwyd neb ond bu farw sawl dafad.

Chwaraeon golygu

Tîm pêl-droed y dref yw UMF Selfoss, a sefydlwyd yn 1936 ac sydd wedi chwarae yng nghyngreiriau Gwlad yr Iâ er 1966. Bu'r clwb am ddau dymor yn uwch gynghrair y wlad, yr Úrvalsdeild, yn 2010 and 2012.

Clwb pêl-fasged broffeisynol y dref yw FSu, sydd wedi chwarae yn Adran 1 a'r Uwch Gynghrair. Ceir hefyd tîm uwchgynghrair yn pêl-llaw.

Enwogion golygu

 
Björk - yn yr 'Hurricane Festival'

O bosib y person enwocaf o Selfoss yw'r gantores Björk a fu'n byw yno pan yn blentyn. Ymysg pobl adnabyddus eraill y dref mae:

  • Jón Arnar Magnússon, cyn-athletwr decathalon
  • Wolf "The Dentist" Stansson, hyfforddwr hoci iâ
  • Davíð Oddsson, cyn-Brif Weinidog Gwlad yr Iâ
  • Björgvin G. Sigurðsson, gwleidydd
  • Gunnar Ólason, aelod o'r band Skítamórall.
  • Jón Daði Böðvarsson, chwaearwr pêl-droed gyda Reading FC a tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ
Golygfa panoramig o Selfoss

Cyfeiriadau golygu

  1. "Life Is Rescues". The New Yorker. 2015-11-09. Cyrchwyd 2015-11-26.
  2. "Strong earthquake rocks Iceland". BBC. 2008-05-29. Cyrchwyd 2008-05-29.
  3. "Magnitude 6.3 - ICELAND REGION". United States Geological Survey. 2008-05-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 11, 2005. Cyrchwyd 2008-06-17. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolen allanol golygu

Gwefan Bwrdeistref Árborg