Maes Awyr Keflavík
Maes Awyr Keflavík (Islandeg: Keflavíkurflugvöllur; cod awyrfa: IATA: KEF ICAO: BIKF), a adnabir hefyd fel Maes Awyr Reykjavík–Keflavík, yw'r awyrfa fwyaf yng Ngwlad yr Iâ a phrif ganolfan trafnidiaeth ryngwladol y wlad. Mae'r awyrfa 3.1 km i'r gorllewin o dref Keflavík a 50 km i'r de orllewin o'r brifddinas,Reykjavík. Lleolir hi ger dref Keflavík.
Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Keflavík |
Agoriad swyddogol | 1943 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Reykjanesbær, Suðurnesjabær |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Uwch y môr | 171 troedfedd |
Cyfesurynnau | 63.985°N 22.6056°W |
Nifer y teithwyr | 7,776,147 |
Rheolir gan | Isavia |
Perchnogaeth | Isavia |
Mae gan y maes awyr dair hedfa (runways); mae dau mewn defnydd. Maint y maes awyr yw oddeutu 25 km sgwâr. Mae'r mwyafrir o'r hediadau sydd i mewn ac allan o Wlad yr Iâ drwy'r awyrfa yma.
Y prif gwmnïau hedfan yno yw Icelandair a WOW air, ill dau yn defnyddio'r maes awyr fel ei prif ganolfan. Defnyddir y maes awyr bron yn unswydd ar gyfer hediadau rhyngwladol. Bydd y rhan fwyaf o hediadau domestig yr ynys yn hedfan o Faes Awyr Reykjavík sydd 3 km o ganol y brifddinas. Ceir hediadau tymhorol o dref Akureyri yng ngogledd yr ynys i Keflavík. Gweinyddir Maes Awyr Keflavík gan Isavia, menter llywodraethol.
Hanes
golyguAdeiladwyd y maes awyr gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ddisodli hedfa (landing strip) bychan Brydeinig oedd i'r gogledd yn Garður. Adeiladwyd dau hedfa a enwyd ar ôl dau beilot bu farw yn y rhyfel, George Meeks a Patterson. Caewyd hedfa Patterson ar ôl y Rhyfel ond cyflwynwyd 'Meeks Field' i reolaeth yr Islandwyr gan ei hail-enwi yn 'Gorsaf Awyr y Llynges, Keflavik' (Naval Air Station Keflavik) ar ôl y dref gyfagos. Ar 5 Mai 1951, cyflwynodd llu filwrol yr UDA y maes awyr i Wlad yr Iâ fel rhan o gytundeb amddiffyn rhwng y ddwy wlad.[1]
Roedd presenoldeb lluoedd milwrol NATO ar yr ynys, y sgil Cytundeb Amddiffyn 1951 yn ddadleuol i nifer o drigolion Gwlad yr Iâ gan nad oedd gan y genedl lu arfog cynhenid heblaw am Wylwyr y Glannau y wlad.[2] Yn ystod yr 1960au a 70au cynhaliwyd ralïau i brotestio yn erbyn presenoldeb filwrol yr UD, gyda'r maes awyr yn bwynt ffocws amlwg iawn. Byddai protest flynyddol yn golygu cerdded y 50om ar hyd y ffordd o'r brifddinas, Reykjavík i Keflavík. Byddai'r protestwyr yn llafarganu, "Ísland úr NATO, herinn burt" (llythrennol: Gwlad yr Iâ allan o NATO, i ffwrdd gyda'r militari"). Nid oedd y protestiadau'n llwyddiannus. Ymysg y protestwyr oedd Vigdís Finnbogadóttir, a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd cyntaf Gwlad yr Iâ.[3]
Oherwydd natur filwrol y maes awyr, hyd nes 1987, roedd yn rhaid i deithwyr a thwristiaid sifil basio drwy dollau milwrol yn y derfynfa nes i'r derfynfa gyhoeddus gael ei hagor.
Roedd y ddau hedfa 3,000 metr o hyd a 61 metr o led yn ddigon mawr i groesawu 'Space Shuttle' NASA ac ar 29 Mehefin 1999 glaniodd yr awyren Concorde wedi hedfan o Faes Awyr Heathrow yno.
Ail-ddyfodiad Filwrol
golyguYn 2016 dechreuodd yr Unol Daleithiau drefniadau i ail-sefydlu canolfan yn Keflavík.[4] ac yn 2017 cyhoeddoedd yr UDA ei bwriad i adeiladu canolfan awyr fodern ar y penrhyn[5] er gwaethaf hanes o wrthwynebiad gan nifer o Islandwyr i strategaeth filwrol yr Unol Daleithiau ar yr ynys.
Adnoddau
golyguEnwir terfynfa'r maes awyr ar ôl Leif Erikson, (Flugstöð Leifs Eiríkssonar) un o'r Ewropeaid cyntaf i lanio yng Ngogledd America. Agorwyd hi ym mis Ebrill 1987[6] gan rannu traffig sifil cyhoeddus oddi ar y ganolfan filwrol. Ehangwyd hi yn 2001 wrth agor Adeilad y De, er mwyn ateb gofynion Cytundeb Schengen, ac ehangwyd arni yn 2007. Estynnwyd Adeilad y Gogledd hefyd yn 2007.
Ceir siopau di-doll yn y lolfa gadael ac ymadael. Yn 2016 ehangwyd y terfynfa ymhellach.[7] ac agorwyd 7 gât.[8] Mae llwyddiant y maes awyr a Gwlad yr Iâ fel cyrchfan dwristiaeth yn golygu bod bellach, hefyd, gynlluniau ar gyfer agor trydydd hedfa.[9]
Traffig Teithwyr 2007–16
golyguCyrchfanau mwyaf prysur
golyguSafle | Awyrfa | Teithwyr |
---|---|---|
1. | London–Gatwick, London–Heathrow, London–Luton, London–Stansted | |
2. | Copenhagen | |
3. | New York–JFK, New York–Newark | |
4. | Oslo–Gardermoen | |
5. | Boston | |
6. | Paris–Charles de Gaulle | |
7. | Amsterdam | |
8. | Stockholm–Arlanda | |
9. | Frankfurt | |
10. | Toronto–Pearson | |
11. | Berlin–Schönefeld, Berlin–Tegel | |
12. | Seattle–Tacoma | |
13. | Manchester | |
14. | Helsinki | |
15. | Washington–Dulles | |
16. | Munich | |
17. | Denver | |
18. | Glasgow–International | |
19. | Edmonton | |
20. | Bergen |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "U.S. Government Debated Secret Nuclear Deployments in Iceland". National Security Archive. George Washington University. 15 August 2016. Cyrchwyd 10 December 2016.
- ↑ Kochis, Daniel; Slattery, Brian (21 Jun 2016). "Iceland: Outsized Importance for Transatlantic Security". The Heritage Foundation. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Jeffreys-Jones, Rhodri (1997). Changing Differences: Women and the Shaping of American Foreign Policy, 1917-1994. Rutgers University Press. t. 168. ISBN 978-0813524498.
- ↑ Pettersen, Trude (10 Feb 2016). "U.S. military returns to Iceland". The Barents Observer. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Snow, Shawn (17 Dec 2017). "US plans $200 million buildup of European air bases flanking Russia". Air Force Times. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
- ↑ Saga og menning Archifwyd 2018-02-22 yn y Peiriant Wayback, Keflavik Airport website.
- ↑ "Hugmyndir um að reisa nýja flugstöð" (yn Icelandic). ruv. Cyrchwyd 13 February 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Metfjöldi farþega á Keflavíkurflugvelli í fyrra – Mikil aukning fjórða árið í röð". Isavia.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-03. Cyrchwyd 2018-03-30.
- ↑ "Hugmyndir um nýja flugbraut á Keflavíkurflugvelli" (yn Icelandic). visir. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2014. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ "Database – Eurostat". ec.europa.eu. Cyrchwyd 24 May 2017.