Nofel yn Gymraeg gan Geraint V. Jones yw Semtecs. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1998. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]. Dyma oedd y nofel fuddugol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998.

Semtecs
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurGeraint V. Jones
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiAwst 1998 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780863815287
Tudalennau374 Edit this on Wikidata

Disgrifiad

golygu

Nofel dditectif, gyda chyn-aelod o'r S.A.S. yn arwr iddi.

Mae hi'n gyntaf o dair nofel yn dilyn anturiaethau "Semtecs" - sef Samuel Tecwyn Turner - ditectif yr heddlu yn Nhrecymer, pentref dychmygol yng ngogledd Cymru. Teitl yr ail nofel yw Asasin, a'r drydedd yw Omega.

Roedd Semtecs yn yr SAS cyn dod i Drecymer i weithio i'r heddlu ac i osgoi hunllefau ei waith blaenorol. Mae'r nofel yn thriller sydd yn dilyn digwyddiadau anghredadwy yn Nhrecymer yn ogystal â gwaith blaenorol Semtecs a'r problemau gafodd ef yno. Mae'r nofel yn dechrau gyda byrgleriaeth mewn bwyty, ond mae problemau eraill yn y pentref hefyd, er enghraifft mae yna byrglediaethau eraill a ty wedi llosgi.

Ar waethaf bod yn y fyddin, ei wybodaeth eang o ieithoedd, a'i brofiad o fyw mewn gwledydd tramor, mae Semtecs yn frodor eithaf cyffredin yn y pentref. Mae e'n byw mewn hen sgubor wedi ei hadnewyddu ac mae'n mwynhau teithio ar ei feic modur. Mae ffrindiau Semtecs a bywyd yn y pentref bychan yng ngogledd Cymru yn cael eu cyflwyno yn ddigon manwl yn y llyfr hwn.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013