Seven Pounds (ffilm)
Mae Seven Pounds (2008) yn ffilm ddrama emosiynol a gyfarwyddwyd gan Gabriele Muccino. Mae Will Smith yn serennu fel dyn sy'n bwriadu newid bywydau saith o ddieithriaid. Mae Rosario Dawson, Woody Harrelson, a Barry Pepper hefyd yn serennu yn y ffilm. Rhyddhawyd y ffilm mewn theatrau yn Unol Daleithiau America a Chanada ar 19 Rhagfyr 2008 ac ar 16 Ionawr 2009 yn y Deyrnas Unedig. Hyd yn hyn, mae'r ffilm wedi gwneud dros $100 miliwn gan wneud y ffilm hon y nawfed ffilm sy'n serennu Will Smith sydd wedi gwneud dros $100 miliwn.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Gabriele Muccino |
Cynhyrchydd | Todd Black Jason Blumenthal James Lassiter Will Smith Steve Tisch |
Ysgrifennwr | Grant Nieporte |
Serennu | Will Smith Rosario Dawson Woody Harrelson Michael Ealy Barry Pepper |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Columbia Pictures |
Dyddiad rhyddhau | UDA a Canada 19 Rhagfyr, 2008 DU 16 Ionawr, 2009 |
Amser rhedeg | 123 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol a rhagflas o'r ffilm Archifwyd 2009-03-15 yn y Peiriant Wayback