Mae sgwner yn llong hwylio gyda dau neu fwy o fastiau a'r prif hwyliau ar bob un o'r mastiau wedi ei gosod i redeg ar hyd y llong (fore and aft rig) fel mewn iotiau heddiw, yn hytrach nag yn groes i'r llong (square rig). Datblygodd sgwneri yn yr Iseldiroedd yn y 16g neu'r 17g, a datblygwyd y ffurf ymhellach yng ngogledd America.

Sgwner
Y sgwner dri mast Linden o Mariehamn, Åland
Mathllong hwylio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd gan y rhan fwyaf o sgwneri ddau neu dri mast, ond gellid cael mwy o fastiau; roedd gan ambell i sgwner chwech, ond roedd hyn yn brin. Roedd y mast blaen ychydig yn fyrrach na'r mastiau eraill, neu yr un taldra. Roedd gan rai sgwneri hwyl uchaf yn rhedeg yn groes i'r llong ar y rhan uchaf o'r mast blaen (topsail schooner).

Roedd y sgwner arbennig o boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, ond daeth yn bur boblogaidd yng Nghymru hefyd. Roedd dwy fantais i'r sgwner dros fathau eraill o long hwylio. Gellid hwylio sgwner gyda llai o griw na mathau eraill o long hwylio fel brig neu farc o'r un maint, ac roedd y sgwner hefyd yn medru hwylio yn erbyn y gwynt yn well. Adeiladwyd nifer fawr o sgwneri ym mhorthladdoedd bychan Cymru yn ystod ail hanner y 19g. Efallai mai'r mwyaf enwog ohonynt oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd ym Mhorthmadog rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed.