Brig
Mae'r erthygl yma yn ymdrin â'r llong. Am y dref o'r un enw yn y Swistir gweler Brig (tref).
Enghraifft o'r canlynol | math o long |
---|---|
Math | two-masted ship |
Gwlad | Y Môr Canoldir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae brig yn fath o long hwylio gyda dau fast, a'r prif hwyliau ar y ddau wedi eu gosod yn groes i'r llong (square rig). Gelwir llong dau fast sydd a'r hwyliau ar y mast cefn yn rhedeg ar hyd y llong (fore-and-aft rig) yn frigantin.
Defnyddid brigiau fel llongau masnach ac fel llongau rhyfel. Cofnodir y math yma o long cyn 1600, ond y 19g oedd oes aur y brig. Roedd y brig yn llong gyflym a hawdd ei thrin, ond roedd angen mwy o griw nag ar sgwner o'r un maint.
Roedd y brig yn fath boblogaidd o long ym mhorthladdoedd Cymru yn ystod y rhan fwyaf o'r 19ed ganrif, ond tua diwedd y ganrif daeth y sgwner yn fwy poblogaidd. Ar y cyfan, tueddai brig i fod yn fwy na sgwner, ond roedd hyn yn amrywio. Ymysg brigiau adnabyddus mae HMS Beagle, y llong y teithiodd Charles Darwin arni, a'r Mary Celeste.