Llong hwylio yw’r term a ddefnyddir am long sy’n defnyddio hwyliau yn hytrach na pheiriant neu rwyfau i’w symud. Dylid nodi fod y term “llong” hefyd ag ystyr arbennig yn ystod oes aur llongau hwyliau, pan oedd yn cael ei ddefnyddio am un math arbennig ar long.

Llong hwylio
Enghraifft o'r canlynolmath o long Edit this on Wikidata
Mathllong, wind-powered vehicle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae defnyddio hwyliau yn mynd yn ôl o leiaf i gyfnod yr Hen Aifft. Yn yr hen fyd roedd yr hwyliau yn aml yn cael eu defnyddio ar y cyd a rhwyfau, er enghraifft yn y trireme Groegaidd. Roedd hyn yn nodweddiadaol o longau rhyfel, tra’r oedd llongau masnach yn tueddu I ddefnyddio hwyliau yn unig.

Y 19g oedd oes aur y llongau hwyliau ar gyfer masnach. Tua chanol y ganrif dechreuwyd rhoi periant ager bychan yn rhai ohonynt, i’w defnyddio pan nad oedd gwynt; roedd y Royal Charter yn esiampl o’r rhain. Yn raddol daeth llongau ager y fwy effeithiol ac yn rhatach, ac ni fu fawr o adeiladu llongau hwyliau newydd yn y gorllewin ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychydig o longau hwyliau sy’n cael eu defnyddio yn y gorllewin bellach, weithiau ar gyfer hyfforddi llongwyr, er fod nifer fawr o gychod hwylio yn cael eu defnyddio ar gyfer pleser. Mae mwy o ddefnydd arnynt yn rhai o wledydd y dwyrain, er enghraifft mae nifer yn parhau i gael eu defnyddio i gludo nwyddau rhwng ynysoedd Indonesia.

Mathau o longau hwylio

golygu

Roedd llongau hwylio yn cael eu rhannu yn nifer fawr o wahanol fathau, yn aml yn dibynnu ar y nifer o fastiau a’r dull roedd yr hwyliau wedi eu gosod. Gellir gosod yr hwyliau mewn dau ddull gwahanol, ar hyd y cwch (fore and aft rig yn Saesneg) fel ar iotiau heddiw, neu yn groes i’r cwch (square rig). Rhai o’r prif fathau oedd:

Carafel : math a ddefnyddid gan forwyr Portiwgal a Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern.

Sgwner : dau neu dri mast, y prif hwyliau I gyd ar hyd y cwch.

Barc : tri neu bedwar mast, y ddau neu dri mast blaenaf gyda’r prif hwyliau’n groes, y mast cefn gyda’r hwyliau ar hyd y cwch.

Barcentin: tri mast neu fwy,y mast blaen a'r hwyliau'n groes a'r mastiau eraill a'r hwyliau ar hyd y cwch.

Brig : dau fast, y ddau a'r hwyliau'n groes.

Brigantin : dau fast, y mast blaen a'r hwyliau'n groes a'r mast cefn a'r hwyliau ar hyd y cwch.

"Llong" : tri neu bedwar mast, gyda’r prif hwyliau yn groes ar bob mast.

Chwiliwch am llong hwylio
yn Wiciadur.